Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael trefn ar eich materion ac atwrneiaethau parhaol

Mae'n bosib y daw adeg yn eich bywyd y bydd arnoch angen rhywun i reoli eich eiddo a'ch materion ariannol, neu'ch lles personol, ar eich rhan, oherwydd na allwch chi wneud hynny mwyach. Gallwch benodi ffrind, perthynas, neu berson proffesiynol yn ffurfiol i feddu ar atwrneiaeth barhaol a fydd yn caniatáu iddynt weithredu ar eich rhan.

Atwrneiaeth barhaol yng Nghymru a Lloegr

nid oes sail gyfreithiol i atwrneiaeth barhaol nes iddi gael ei chofrestru â Swyddfa Gwarcheidwad y Cyhoedd

Dogfen gyfreithiol sy'n eich galluogi i benodi rhywun y mae gennych ffydd ynddynt yn ‘atwrnai’ i wneud penderfyniadau ar eich rhan yw atwrneiaeth barhaol.

Gellir ei llunio ar unrhyw adeg tra bo'r gallu gennych, ond ni fydd iddi ddim statws cyfreithiol nes iddi gael ei chofrestru â Swyddfa Gwarcheidwad y Cyhoedd.

Gellir defnyddio atwrneiaeth barhaol a gofrestrwyd ar unrhyw adeg, p'un a yw'r gallu gennych yn feddyliol i weithredu drosoch eich hun ai peidio.

Gallwch greu dau fath o atwrneiaeth barhaol:

  • Atwrneiaeth barhaol Eiddo a Materion Ariannol
  • Atwrneiaeth barhaol Lles Personol

Atwrneiaeth barhaol Eiddo a Materion Ariannol
Bydd Atwrneiaeth barhaol Eiddo a Materion Ariannol yn eich galluogi i ddewis rhywun i wneud penderfyniadau ynghylch sut i wario'ch arian a sut y rheolir eich eiddo a'ch materion ariannol.

Atwrneiaeth barhaol Lles Personol
Bydd Atwrneiaeth barhaol Lles Personol yn eich galluogi i ddewis rhywun i wneud penderfyniadau ynghylch eich gofal iechyd a'ch lles. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau ar eich rhan i wrthod neu ganiatáu triniaeth, a phenderfynu ymhle'r ydych yn byw. Dim ond pan fo'ch atwrneiaeth barhaol wedi'i chofrestru, a phan na fyddwch chi'n gallu gwneud y penderfyniadau drosoch eich hun, y gellir gwneud y penderfyniadau hyn ar eich rhan.

Faint o bobl y dylech eu penodi, a phwy y dylech eu penodi?

Os na allwch weithredu drosoch eich hun, mae'n bosib na fyddwch chwaith yn gallu sicrhau bod eich atwrnai'n gweithredu'n briodol, felly fe allai fod yn syniad da penodi mwy nag un person fel nad oes modd i neb gamddefnyddio'r cyfrifoldeb. Dewiswch bobl y gallwch chi ymddiried ynddynt i weithredu er eich budd gorau. Dylech ystyried pa mor dda y maen nhw'n gofalu am eu materion ariannol hwy eu hunain ac a allwch chi ymddiried ynddyn nhw i ddefnyddio'ch arian i ddiwallu'ch anghenion.

Gallwch ddefnyddio twrnai i sefydlu atwrneiaeth barhaol, neu gallwch lenwi ffurflen ar-lein ar wefan Swyddfa Gwarcheidwad y Cyhoedd.

Ceisio cyngor proffesiynol

A dibynnu ar gymhlethdod eich eiddo a'ch materion ariannol, fe all fod yn syniad da cael cyngor gan gyfreithiwr can gwneud atwrneiaeth barhaol.

Gallwch gael mwy o wybodaeth ynghylch gwneud atwrneiaeth barhaol gan Swyddfa Gwarcheidwad y Cyhoedd.

Cofrestru Atwrneiaeth Barhaol

Gallwch chi neu'ch atwrnai wneud cais i Warcheidwad y Cyhoedd gofrestru'ch atwrneiaeth barhaol. Gellir gwneud y cais unrhyw adeg ar ôl i chi wneud atwrneiaeth barhaol.

Cyn gwneud cais am gofrestru'r atwrneiaeth barhaol, rhaid i'r person sydd am ei chofrestru roi gwybod i'r bobl a enwir fel rhai sydd â hawl i gael eu hysbysu am y cais.

Bydd Gwarcheidwad y Cyhoedd yn rhoi gwybod i'r bobl ganlynol bod y cais wedi'i dderbyn:

  • chi, fel y rhoddwr
  • yr atwrnai neu'r atwrneiod

Ni roddir gwybod i'ch teulu am y cais i gofrestru'r atwrneiaeth barhaol onid ydych wedi eu henwi fel pobl y dylid eu hysbysu.

Gall unrhyw un a hysbyswyd wrthwynebu i gofrestru'r atwrneiaeth barhaol.

Ar ôl cofrestru'r atwrneiaeth barhaol, bydd yn parhau yn amhenodol. Gall yr atwrnai gofrestru'r atwrneiaeth barhaol pan nad yw'r gallu gennych mwyach.

Atwrneiaeth Barhaus

Disodlodd yr atwrneiaeth barhaol yr atwrneiaeth barhaus ar 1 Hydref 2007. Gall person y rhoddwyd grym iddo dan atwrneiaeth barhaus cyn 1 Hydref 2007 ei defnyddio o hyd, a gwneud cais am ei chofrestru. Mae gan y person hwn ddyletswydd i wneud cais am gofrestru'r atwrneiaeth barhaus cyn gynted ag y credant eich bod yn colli'r gallu meddyliol i wneud penderfyniadau ariannol drosoch eich hun.

Os oes gennych atwrneiaeth barhaus heb ei chofrestru, a bod y gallu gennych i benderfynu drosoch eich hun, gallwch wneud atwrneiaeth barhaol Lles Personol ochr yn ochr â hi.

Diddymu atwrneiaethau

Atwrneiaethau parhaol
Gallwch ddiddymu eich atwrneiaeth barhaol os ydy'r gallu meddyliol gennych i wneud hynny. Os ceir anghydfod ynghylch a yw'ch atwrneiaeth barhaol wedi ei diddymu ai peidio, mae gan y Llys Nodded yr awdurdod i wneud penderfyniad.

Diddymir atwrneiaeth barhaol Eiddo a Materion Ariannol os byddwch chi neu'ch atwrnai'n mynd yn fethdalwyr; nid yw mynd yn fethdalwr yn terfynu atwrneiaeth barhaol Lles Personol.

Atwrneiaethau parhaus
Gallwch ddiddymu eich atwrneiaeth barhaus os ydy'r gallu meddyliol gennych i wneud hynny, heb wneud cais i'r Llys Nodded.

Er mwyn diddymu atwrneiaethau parhaus, rhaid i chi ddangos i'r Llys Nodded:

  • eich bod yn deall pwy yw'r atwrnai a pha rym sydd ganddynt
  • eich bod yn deall effaith diddymu'r atwrneiaeth
  • pam mae angen diddymu'r atwrneiaeth barhaus

Diddymir yr atwrneiaeth barhaus os byddwch chi neu'ch atwrnai'n mynd yn fethdalwyr.

Anallu yn yr Alban

Mae Deddf Oedolion ag Anallu (yr Alban) 2000 yn cynnig gwahanol ffyrdd i bobl reoli materion pobl na allan nhw weithredu drostyn nhw'u hunain.

Gallwch drosglwyddo'r pŵer penderfynu (yr atwrneiaeth) i rywun arall rhag ofn i'ch salwch waethygu yn y dyfodol. Fe allai hyn gynnwys penderfyniadau am eich eiddo, eich materion ariannol a'ch lles personol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU