Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Arweiniad i wybodaeth i ofalwyr

Os ydych yn ofalwr, efallai bod gennych chithau hawl i gael cymorth a chefnogaeth. Mae 'gofalwr' yn golygu rhywun sy'n gofalu am ffrind, perthynas neu gymydog y mae angen cefnogaeth arnynt oherwydd eu hoedran, eu salwch neu eu hanabledd.

Rheoli eich materion ac atwrneiaeth arhosol

Efallai y daw amser pan na fyddwch yn gallu rheoli eich eiddo a'ch materion ariannol neu'ch lles personol, ac y bydd arnoch angen rhywun i wneud hyn ar eich rhan. Gallwch benodi ffrind, perthynas neu berson proffesiynol yn ffurfiol i gael atwrneiaeth arhosol a fydd yn eu galluogi i weithredu ar eich rhan.

Gwasanaethau gofalu a chefnogi

Efallai y gall eich adran gwasanaethau cymdeithasol lleol wneud pethau'n haws i chi ac i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano/amdani. Gallant gynnig gwasanaethau megis cymorth cartref (glanhau, er enghraifft) neu wyliau byr i chi fel gofalwr.

Materion ariannol

Os ydych yn ofalwr, efallai bod gennych hawl i gael cymorth a chefnogaeth ariannol. Dewch i gael gwybod pa fuddiannau y gallwch chi (a'r sawl yr ydych yn gofalu amdano) eu cael.

Gofalwyr a chyflogaeth

Fel gofalwr, efallai eich bod eisoes yn gofalu am rywun gartref ac yn gweithio. Efallai eich bod yn ystyried mynd yn ôl i weithio a pharhau i ofalu am rywun.

Iechyd a chymryd seibiant

Wrth ofalu am rywun, gall fod yn hawdd esgeuluso'ch iechyd a'ch lles eich hun. Ond mae'n bwysig gofalu amdanoch eich hun a chael rhywfaint o seibiant o ofalu.

Hawliau gofalwyr

Pan fydd rhywun sy’n agos atoch yn marw mewn ysbyty neu mewn cartref gofal, bydd y staff a oedd yn gofalu am y person a fu farw yn gwybod beth i'w wneud, a byddant yn rhoi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i chi ar ôl y farwolaeth.

Pan fydd rhywun yn marw mewn ysbyty neu gartref gofal

Pan fydd rhywun sy'n agos atoch chi'n marw mewn cartref gofal neu yn yr ysbyty, bydd y staff a fu'n gofalu am yr unigolyn yn gwybod beth i'w wneud ac yn rhoi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i chi ar ôl y farwolaeth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU