Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Canllaw i aros yn eich cartref

Pan fydd byw'n annibynnol yn mynd yn anoddach, mae mwy o help ar gael – megis cymorth ariannol, gwasanaethau domestig neu ddewisiadau tai sy'n rhoi'r sicrwydd ychwanegol o allu galw ar rywun mewn argyfwng.

Cefnogaeth i aros yn eich cartref eich hun

Os ydych chi am fyw mor annibynnol â phosibl, efallai y bydd arnoch angen cefnogaeth i aros yn eich cartref eich hun. Gall adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau, o gymorth ariannol i brydau yn y cartref a fydd yn helpu.

Enwebu cynorthwy-ydd i gasglu budd-daliadau neu bensiwn ar eich rhan

Efallai y daw adeg yn eich bywyd pan y gallwch reoli eich arian, ond ei bod yn mynd yn anoddach cyrraedd y swyddfa bost neu'r banc i dderbyn eich pensiwn neu fudd-daliadau eraill. Os yw hynny'n wir, gallwch enwebu ffrind yr ydych yn ymddiried ynddo, neu berthynas, i'ch helpu.

Help i gynhesu eich cartref

Os oes angen help arnoch i dalu am wresogi neu i wella'r insiwleiddio yn eich cartref, mae'n bosibl y gallwch chi gael arian gan un o gynlluniau grantiau'r llywodraeth, gan ddibynnu lle'r ydych yn byw.

Cynllun Ffrynt Cynnes

Os oes angen help arnoch i dalu am wella system gwresogi ac insiwleiddio eich cartref, boed hwnnw'n eiddo preifat i chi, neu'n eiddo ar rent, mae'n bosibl y gallwch chi, eich partner neu eich partner sifil gael arian gan gynllun grantiau Ffrynt Cynnes y llywodraeth os, er enghraifft, rydych chi'n derbyn incwm neu fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd.

Canllaw i fyw'n wyrdd

Mae'r amgylchedd a byw'n wyrdd yn faterion sy'n peri mwy a mwy o bryder i bobl dros 50. Er bod pobl dros 50 yn mwynhau bywydau moethus yn gyffredinol, mae ganddynt hefyd ôl troed carbon mawr. Fodd bynnag, gallwch gymryd camau i gydbwyso eich defnydd o ynni mewn llawer ffordd: drwy ailgylchu, gwirfoddoli ar brosiectau cadwraeth, arbed ynni ac insiwleiddio eich cartref.

Bod yn ddiogel yn y cartref

Gallai cymryd ambell gam syml a rhad achub eich bywyd. Gallwch eich amddiffyn eich hun yn eich cartref drwy osod larymau mwg a chynllunio ffyrdd o ddianc.

Gwasanaethau prydau i'ch cartref

Gellir danfon prydau poeth, a phrydau wedi'u rhewi weithiau, i'ch cartref os yw hi'n anodd i chi goginio oherwydd eich iechyd. Cyfeirir at hwn weithiau fel y gwasanaeth 'pryd ar glud'.

Gwasanaethau prydau i'ch cartref

Gellir dosbarthu prydau poeth, a phrydau wedi'u rhewi weithiau, i'ch cartref os ydych yn cael problemau coginio oherwydd eich iechyd. Cyfeirir at hyn weithiau fel y gwasanaeth 'pryd ar glud'. Fel gyda'r rhan fwyaf o gefnogaeth a drefnir i'ch helpu chi aros yn fwy annibynnol, gellir cynnig gwasanaeth 'prydau i'ch cartref' ichi ar ôl i'r gwasanaethau cymdeithasol lleol asesu'ch anghenion.

Eich cartref, addasiadau a chyfarpar

Gwybodaeth am addasiadau i gartrefi, cyfarpar ar gyfer byw'n annibynnol, Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a chymorth ariannol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU