Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Enwebu cynorthwy-ydd i gasglu budd-daliadau neu bensiwn ar eich rhan

Mae'n bosib y daw adeg yn eich bywyd pan fyddwch chi'n gallu cadw trefn ar eich sefyllfa ariannol ond ei bod hi'n anodd i chi fynd i'r post neu i'r banc i nôl eich pensiwn neu fudd-daliadau eraill. Os felly, gallwch enwebu ffrind neu berthynas rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw i'ch helpu.

Agor cyfrif cerdyn Swyddfa'r Post (TM)

Bydd taliadau a gewch gan adrannau'r llywodraeth - megis eich pensiwn neu fudd-daliadau eraill - yn mynd yn syth i'ch cyfrif personol yn Swyddfa'r Post™. Fodd bynnag, fe gewch enwebu rhywun i fynd at y cyfrif hwn ar eich rhan.

Gallwch gael gwybod mwy drwy gysylltu â'ch Canolfan Byd Gwaith leol neu'r swyddfa nawdd cymdeithasol sy'n delio â'ch budd-dal(iadau) neu'ch pensiwn, neu gan Swyddfa'r Post™. Dylai eich swyddfa bost leol allu rhoi taflen i chi - 'Canllawiau i'ch cyfrif cerdyn' - gyda'r ffurflen gais.

Rhif llinell gymorth Swyddfa'r Post™ yw 08457 22 33 44, 8.15 am tan 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac 8.30 am - 5.30 pm ar ddydd Sadwrn.

Enwebu cynorthwyydd i gael mynediad i’ch cyfrif

Rhaid i chi lenwi adran 4 y ffurflen gais i ddewis cynorthwy-ydd. Yr enw ffurfiol a roddir ar y cynorthwy-ydd hwn fydd 'Asiant Parhaol'. Rhaid i'ch cynorthwy-ydd lofnodi'r ffurflen, ac yna dylech chi neu'ch cynorthwy-ydd fynd i gangen leol swyddfa'r post gyda'r ffurflen wedi'i llenwi, ac unrhyw un o'r dogfennau gwreiddiol canlynol o eiddo eich cynorthwy-ydd:

  • trwydded yrru lawn
  • pasport
  • llyfr budd-daliadau
  • tystysgrif geni
  • tystysgrif briodas
  • tystysgrif frodori

Rhaid i'r cynorthwy-ydd fod yn 16 oed neu drosodd. Cofiwch ddewis rhywun y gallwch ymddiried ynddo na fydd yn camddefnyddio'r trefniant.

Sut mae'n gweithio?

Ar ôl cwblhau a phrosesu'r cais, anfonir cerdyn at eich cynorthwy-ydd gyda Rhif Adnabod Personol (PIN). Gellir defnyddio hwn mewn unrhyw un o ganghennau swyddfa'r post i godi arian o'ch cyfrif ar eich rhan. (Dim ond adrannau'r llywodraeth a gaiff dalu arian i'ch cyfrif, ac nid oes modd defnyddio'r cerdyn fel cerdyn credyd.) Pan fyddwch chi'n gwneud cais am y cerdyn, rhoddir llwyth o wybodaeth i chi am sut i gadw'ch cyfrif yn ddiogel.

Sefydlu Taliad Uniongyrchol i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu

Gallech ddewis derbyn budd-dal, pensiwn, lwfans neu gredyd treth drwy Daliad Uniongyrchol i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu o'ch dewis. Mae gan y rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu drefniadau i adael i rywun fynd at eich cyfrif gyda'ch caniatâd - mae'n debyg y bydd rhaid i chi lofnodi ffurflen gyfarwyddiadau i roi hawl i drydydd parti. Gallwch hefyd reoli'ch materion ariannol dros y we gyda sawl cyfrif newydd.

Dylech chi neu'r cynorthwy-ydd a ddewiswyd gennych gysylltu â'ch banc neu'ch cymdeithas adeiladu ynglŷn â hyn.

Nid yw Taliad Uniongyrchol yr un fath â thaliadau uniongyrchol gan eich cyngor lleol, sef y taliadau y gallwch eu derbyn os oes gennych hawl i gael help ariannol ar gyfer gwasanaethau gofal ond eich bod yn dymuno gwneud eich trefniadau gofal eich hun.

Derbyn taliad drwy siec

Mae'n bosib y bydd pobl na allant dderbyn Taliad Uniongyrchol nac agor cyfrif cerdyn personol gyda Swyddfa'r PostTM yn gallu cael taliad drwy siec. Bwriedir i'r taliad drwy siec helpu pobl sy'n cael anhawster difrifol gyda'r canlynol:

  • defnyddio cerdyn a chofio rhif PIN
  • defnyddio peiriant twll yn y wal neu lyfr siec
  • enwebu un asiant neu gynorthwy-ydd i gasglu eu budd-dal ond bod angen iddynt gael gwahanol ofalwyr i gasglu'r taliad

Dim ond y sawl sydd wir yn ei chael hi'n anodd defnyddio Taliad Uniongyrchol gaiff dderbyn taliad drwy siec.

Sut mae'r taliad drwy siec yn gweithio?

Bydd y cynorthwy-ydd a enwebir gennych yn newid y Siec ar eich rhan.

Rhaid i chi lofnodi cefn y siec i ddangos eich bod wedi gofyn i rywun arall ei newid drosoch chi. Bydd y cynorthwy-ydd hefyd yn llofnodi datganiad ac yn rhoi tystiolaeth o bwy ydyw ac o bwy ydych chi yn eich Swyddfa BostTM neu'ch banc/cymdeithas adeiladu.

Atwrneiaeth

Mae'n bosib y byddwch am sefydlu eich Atwrneiaeth eich hun gyda chymorth cyfreithiwr. Mae'r dewis hwn yn addas os ydych chi'n awyddus i ffurfioli'r trefniant lle bydd perthynas neu gyfaill rydych yn ymddiried ynddo'n mynd at eich cyfrif fel asiant heb ddim hawl cyfreithiol ar yr arian sydd ynddo. Eto i gyd, bydd angen i chi drafod y trefniadau talu gyda'ch banc, eich cymdeithas adeiladu neu'ch Swyddfa BostTM.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU