Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cefnogaeth i aros yn eich cartref eich hun

Os ydych chi eisiau byw mor annibynnol ag y bo modd, efallai bydd angen cefnogaeth arnoch i aros yn eich cartref eich hun. Gall adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau a all fod o help i chi.

Er enghraifft, efallai y byddai angen help arnoch i lanhau neu y byddai cael gosod rheilen ar y bath yn help i chi. Mae'n bosib bod gennych yr hawl i gael help ariannol i gynnal a chadw'ch cartref eich hun.

Asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol

I gael gwybod pa fath o help y gallech ei gael, bydd rhaid i chi gael asesiad iechyd a gofal cymdeithasol gan dîm eich gwasanaethau cymdeithasol lleol. Dyma'ch cyfle i roi gwybod i'r gwasanaethau cymdeithasol beth fyddai'n gwneud eich bywyd beunyddiol yn haws.

Fe allech chi hefyd fod â'r hawl i gael 'taliadau uniongyrchol'. Taliadau gan y cyngor lleol yw'r rhain ar gyfer unrhyw un yr aseswyd bod angen cymorth y gwasanaethau cymdeithasol arnynt, a'u bod yn dymuno prynu'r gwasanaethau hynny gan rywun arall yn hytrach na'u derbyn gan y cyngor lleol. Er enghraifft, gellid defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am gymorth cartref.

Asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol yn eich ardal chi

Holwch am asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol yn eich ardal chi. Mae'n bosib y byddwch chi'n gallu gwneud cais am un ar-lein. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi deipio ble'r ydych chi'n byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol.

Gofal yn eich cartref eich hun

Cynigir gofal yn eich cartref eich hun i bobl sydd ag angen cymorth gyda'u gofal personol er enghraifft i ymolchi neu wisgo, neu gyda thasgau beunyddiol ymarferol eraill megis help gyda thasgau yn y cartref megis coginio a glanhau, neu weithiau, help i gadw trefn ar faterion ariannol.

Mae gwybodaeth ar gael am ofal cartref yn eich ardal leol. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi deipio ble'r ydych chi'n byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol.

Gwneud eich cartref yn haws byw ynddo

Mae'n bosib y byddai addasu'ch cartref - er enghraifft gosod canllaw, atal drafft neu osod teclyn codi yn y bath - yn help i chi. Fe all eich gwasanaethau cymdeithasol lleol eich cynghori am hyn, ac weithiau fe allwch chi gael cymorth ariannol i addasu eich cartref.

Yn aml iawn, bydd gan awdurdodau lleol gytundebau gydag 'asiantaethau gwella cartrefi' i wneud y gwaith.

Cyflogi gofalwr neu gynorthwywr personol

Os ydych yn edrych am weithiwr ofal i'ch helpu i fyw'n annibynnol yn eich cartref, efallai gallwch gael un drwy eich adran gwasanaethau cymdeithasol neu asiantaeth gofal cartref, neu gallwch ddewis i gyflogi rhywun yn uniongyrchol.

Siopa a danfon nwyddau i'ch cartref

Os yw hi'n anodd i chi siopa weithiau, efallai yr hoffech ystyried siopa ar y we. Bydd rhai archfarchnadoedd a siopau'n danfon eich neges i'r drws.

Cynllun Ffrynt Cynnes a chymorth o fath arall

Mae'n bosib y gallech gael cymorth ariannol tuag at gynhesu'ch cartref. Gallai hyn gynnwys:

  • insiwleiddio'r atig, waliau dwbl a thanciau dŵr poeth
  • atal drafft
  • gwresogyddion storio trydan

Mae'n bosib y cewch chi gymorth ariannol hefyd megis y Taliad Tanwydd Gaeaf neu'r Taliad Tywydd Oer.

Cymorth pan fyddwch chi'n gofalu am rywun

Os ydych yn ofalwr, efallai y byddai cael rhywfaint o help gartref o fudd i chi. Efallai y byddai'n fuddiol petai'r person rydych chi'n gofalu amdano'n ymweld â chanolfan ddydd am ychydig oriau er mwyn i chi gael rhywfaint o amser personol. Mae'n bosib hefyd y byddech chi'n elwa o gael rhywfaint o help yn y tŷ gyda phethau fel glanhau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU