Gall iechyd, symudedd a sefyllfaoedd ariannol effeithio ar benderfyniadau a wnewch ynglŷn â'ch trefniadau tai. Efallai bod angen lefel o gefnogaeth arnoch nad yw'n bosibl ei darparu yn eich cartref. Unwaith i chi wneud y penderfyniad i symud i gartref gofal, bydd angen i chi ddechrau'r broses o ddewis yr un iawn i chi.
Gall adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol roi gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn a sut i gael y gwasanaethau hynny. Mae ganddynt ddyletswydd i sicrhau bod eich anghenion gofal – boed hwy'n anghenion corfforol neu emosiynol – yn cael eu diwallu.
Mae gennych hawl dewis eich cartref gofal. Mae digon o ddewis, ond gallai gymryd amser i ddod o hyd i'r un sy'n iawn ar eich cyfer chi. Dylech wneud yn siŵr bod gan y cartref gofal a ddewiswch y cyfleusterau, yr offer a'r staff gyda'r hyfforddiant priodol i fodloni'ch anghenion.
Mae pob awdurdod lleol yn gosod symiau y byddant yn eu talu fel arfer ar gyfer rhywun gyda'ch anghenion asesedig. Os ydych eisiau symud i gartref gofal drutach, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am ofal preswyl lleol.
Ceir gwahanol fathau o gartrefi gofal. Mae rhai'n cynnig gofal nyrsio amser llawn, mae eraill yn cefnogi pobl gydag anabledd penodol neu angen meddygol.
Os ydych yn derbyn triniaeth reolaidd ar hyn o bryd gan nyrs gymwysedig, efallai y byddwch angen cartref gofal gyda nyrsio. Bydd eich nyrs ardal neu staff yr ysbyty yn gallu'ch helpu i benderfynu.
Mae ffioedd cartrefi gofal yn peri pryder i lawer o bobl. Weithiau, gall cartrefi gofal sy'n darparu gwasanaethau a chyfleusterau sy'n briodol ar gyfer anableddau penodol fod yn ddrud.
Bydd gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn asesu'ch anghenion ac yn eich helpu i ddod o hyd i gartref gofal a fydd yn diwallu'r anghenion hynny.
Byddant wedyn yn cynnal asesiad ariannol i ganfod faint y gallwch fforddio ei gyfrannu tuag atynt. Ar hyn o bryd, os oes gennych dros £22,250 o gyfalaf, bydd yr asesiad yn nodi y byddwch yn gallu talu cost lawn eich gofal.
Gall symud i gartref gofal effeithio ar y budd-daliadau rydych chi'n eu derbyn. Bydd y rhan fwyaf o'ch budd-daliadau'n ffurfio rhan o'ch cyfraniad tuag at ffioedd eich cartref gofal, ac felly mae'n bwysig eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Mae'n bosibl hefyd yr effeithir ar eich budd-daliadau gan gyfnod dros dro neu gyfnod prawf mewn cartref gofal.
Gall symud i gartref gofal effeithio ar y budd-daliadau rydych chi'n eu derbyn. Bydd y rhan fwyaf o'ch budd-daliadau'n ffurfio rhan o'ch cyfraniad tuag at ffioedd eich cartref gofal, ac felly mae'n bwysig eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Mae'n bosibl hefyd yr effeithir ar eich budd-daliadau gan gyfnod dros dro neu gyfnod prawf mewn cartref gofal.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn talu rhan o ffioedd eu cartref gofal, o leiaf, ond nid yw hyn yn golygu o reidrwydd y bydd rhaid i chi werthu eich cartref. Os ydych chi'n cynllunio ymlaen llaw, gallwch amddiffyn eich asedau a sicrhau bod gennych rywbeth i'w adael i'ch anwyliaid yn eich ewyllys.
Wrth ystyried symud i gartref gofal, efallai y byddwch yn poeni beth fydd yn digwydd i'ch anifeiliaid anwes, eich dodrefn ac eiddo personol arall. Mae'n bwysig gofyn am bolisi cartref gofal ar anifeiliaid anwes a chynnwys eich cartref cyn i chi symud i mewn.
Mae rhai pobl yn symud i gartref gofal yn uniongyrchol o'r ysbyty. Ni ellir eich rhyddhau o ysbyty i gartref gofal heb eich caniatâd ac mae gennych hawl dewis eich cartref gofal. Weithiau efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i ysbyty a chithau'n byw mewn cartref gofal.
Mae'r Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol yn rheoleiddio cartrefi gofal ac yn arolygu pob cartref gofal a gofrestrir ganddynt. Pan fyddwch yn symud i gartref gofal, dylech gael gwybod am y drefn gwyno. Os oes gennych unrhyw broblemau, gallwch gwyno'n uniongyrchol wrth y cartref gofal neu gwyno wrth y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol.