Os ydych am fyw’n annibynnol ond ddim yn gallu aros yn eich cartref eich hun, efallai bod angen cefnogaeth arnoch. Gall fod oherydd bod eich iechyd wedi gwaethygu, neu fod eich amgylchiadau wedi newid neu am nad yw eich ffrindiau, eich teulu a’r gwasanaethau cymdeithasol yn gallu ymateb i’ch anghenion rhagor. Gall eich adran gwasanaethau cymdeithasol lleol ddweud wrthych am y gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal megis tai â chefnogaeth, tai gwarchod, tai gofal ychwanegol a gofal preswyl.
Fel arfer, mae cynlluniau tai gwarchod wedi cael eu hadeiladu ar gyfer pobl hŷn a/neu bobl anabl. Gan amlaf, mae'r llety'n cynnwys fflatiau neu fyngalos ollgynhwysol. Yn aml mae ganddynt system alw a system larwm a warden sy'n ymweld yn rheolaidd, neu sy'n byw ar y safle.
Mae tai gwarchod ar gael sy'n cynnig mwy o ofal, a elwir yn ‘dai gwarchod gyda gofal ychwanegol’ neu ‘dai gwarchod arbennig’. Gall fod yn ddelfrydol ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu ymdopi gystal ar eu pennau'u hunain ond nad oes angen y gofal sydd ar gael mewn cartref gofal arnynt.
Gallwch gael gwybod am asesu anghenion gan y gwasanaethau cymdeithasol ac mae'n bosib y byddwch chi'n gallu gwneud cais am asesiad ar-lein. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi deipio ble'r ydych chi'n byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol.
Os oes angen lefel o gymorth arnoch nad oes modd ei ddarparu yn eich cartref eich hun, yna, efallai mai cartref gofal yw'r ateb. Ceir gwahanol fathau o gartrefi gofal. Does dim gofal nyrsio'n cael ei gynnig gan rhai ohonynt tra bo eraill yn cynnig gofal nyrsio amser llawn a rhai'n cefnogi pobl gydag anabledd penodol neu angen meddygol.
Mae tai gyda gofal ychwanegol yn cynnig annibyniaeth a dewis drwy roi gofal a chymorth i bobl fwy bregus yn eu cartref eu hunain, gan deilwra'r gwasanaeth i'w hanghenion fel unigolion. Mae tai gyda gofal ychwanegol yn darparu cymorth 24-awr, prydau bwyd, cymorth cartref, cyfleusterau hamdden ac adloniant ac amgylchedd sy'n wirioneddol ddiogel. Mae gan bobl hŷn mewn tai gyda gofal ychwanegol eu fflatiau ollgynhwysol eu hunain ac maent yn denantiaid gyda'u cytundeb tenantiaeth eu hunain. Darperir y gofal mewn ffordd hyblyg.
Gellir darparu tai gyda gofal ychwanegol ar rent neu i'w gwerthu, fel arfer drwy drefniant les.
Mae'n bosib y bydd eich awdurdod lleol yn gallu'ch helpu i symud cartref. Ceir cwmnïau hefyd a fydd yn eich helpu i bacio a chludo'ch eiddo a threfnu i werthu eitemau o ddodrefn nad oes eu hangen arnoch rhagor.
Os ydych chi ar incwm isel a'ch bod yn derbyn Credyd Pensiwn, mae'n bosib y gallech wneud cais i'r Gronfa Gymdeithasol am Grant Gofal yn y Gymuned i'ch helpu gyda'ch costau symud.
Mae elusennau lleol a chenedlaethol a mudiadau di-elw eraill yn gallu bod yn ffynhonnell ddefnyddiol o gymorth, cyngor a chefnogaeth i bobl hŷn a'u gofalwyr. Gallant hefyd eich helpu i barhau i fyw'n annibynnol yn eich cartref eich hun.