Efallai fod arnoch angen lefel o gefnogaeth na ellir ei darparu yn eich cartref presennol – ond does dim angen symud i gartref gofal amser llawn. Bydd iechyd, symudedd a sefyllfaoedd ariannol yn effeithio ar y penderfyniadau a wnewch ynglŷn â'ch trefniadau tai, ond mae amrywiaeth eang o ddewisiadau a fydd yn gwella eich ansawdd bywyd heb golli eich annibyniaeth.
Gall eich cyngor lleol roi gwybod i chi am ei wasanaethau ac am gartrefi gofal, tai â chefnogaeth a thai gwarchod yn eich ardal.
Dylai eich cyngor lleol hefyd fod â rhestr o eiddo cymdeithasau tai yn eich ardal, a gallant roi cyngor ynghylch pa rai fyddai'n addas.
Gall tai gwarchod gynnig nifer o wasanaethau a fydd yn eich helpu chi fyw yn annibynnol, gyda'r sicrwydd ychwanegol y gallwch alw ar rywun mewn argyfwng. Mae tai gwarchod yn wahanol i fathau eraill o dai oherwydd bod rheolwr y cynllun, neu warden, yn byw yn yr adeilad neu gerllaw. Gellir cysylltu â hwy drwy system larwm os oes rhaid. Mae rhai cynlluniau'n benodol ar gyfer pobl anabl ac efallai fod cyfleusterau arbenigol ar gael a staff wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddarparu cefnogaeth.
Rhaglen gan y llywodraeth yw Cefnogi Pobl ac mae'n ariannu, cynllunio a monitro gwasanaethau cefnogi sy'n gysylltiedig â thai. Ei nod yw gwella safon ac effeithiolrwydd y gwasanaethau cefnogi ar lefel leol i helpu pobl agored i niwed neu bobl hŷn i fyw'n annibynnol.
Gallwch gael gwybod am asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol yn eich ardal leol, ac efallai y gallwch wneud cais am un ar-lein. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol.