Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Canllawiau i fyw'n fwy gwyrdd i bobl dros 50

Mae'r amgylchedd a byw'n fwy gwyrdd yn faterion sy'n peri mwy a mwy o bryder i bobl dros 50. Tra bo pobl dros 50 yn mwynhau bywyd cefnog yn gyffredinol, mae ganddynt hefyd ôl troed carbon mawr. Fodd bynnag, gallwch gymryd camau i gydbwyso defnydd ynni mewn llawer o ffyrdd: drwy ailgylchu, gwirfoddoli ar brosiectau cadwraeth, arbed ynni ac inswleiddio'ch cartref.

Arbed ynni yn eich cartref

Mae'r ynni a ddefnyddir gennym yn ein cartrefi'n gyfrifol am dros chwarter gollyngiadau carbon deuocsid y DU, sef y prif nwy tŷ gwydr sy'n achosi newid yn yr hinsawdd. Mae gan pobl 50 i 64 oed ôl troed carbon mwy nag unrhyw grŵp oedran arall yn y DU. Mae dibyniaeth uchel ar geir, gwyliau dramor a bwyta allan yn rai o weithgareddau carbon uchel allweddol y baby boomers. Drwy ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon a gwastraffu llai, byddwch yn lleihau gollyngiadau carbon yn ogystal â'ch biliau tanwydd.

Help i gynhesu eich cartref

Mae nifer o fuddion ariannol ac amgylcheddol i gael cartref sydd wedi'i inswleiddio'n iawn. Gall inswleiddio'r atig yn llawn leihau colledion gwres dros 20 y cant, ac inswleiddio waliau ceudod dros 30 y cant. Golyga hyn arbedion mawr mewn biliau tanwydd yn y gaeaf, yn ogystal â lleihau allyriannau nwyon tŷ gwydr. Bydd inswleiddio hefyd yn cadw eich cartref yn fwy cysurus yn ystod misoedd yr haf.

Os oes angen help arnoch i dalu am wres neu i wella'r insiwleiddio eich cartref, mae'n bosibl y gallwch chi gael arian gan un o gynlluniau grantiau llywodraeth, a dibynnu lle rydych chi'n byw. Mae cynlluniau'n bodoli yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac ar gyfer pobl dros 60.

Ailgylchu

Gellir ailgylchu bron dwy ran o dair o sbwriel y cartref. Dysgwch sut i ailgylchu ystod eang o nwyddau, yn cynnwys pren, olew injan, tiwbiau golau fflwroleuol, tecstiliau, batris a setiau teledu. Mae ailgylchu'n arbed llawer o ynni a deunyddiau crai, ac yn golygu y bydd llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi

Gwirfoddoli gwyrdd

Mae sawl ffordd y gallwch helpu'r amgylchedd drwy wirfoddoli. Yn aml, rhedir prosiectau cadwraeth yn lleol gan gynghorau a mudiadau gwirfoddol. Hefyd, ceir 'campfeydd gwyrdd' a drefnir gan Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain, sy'n eich helpu i gadw'n heini a helpu ar yr un pryd.

Rhandiroedd

Mae cadw rhandir yn ffordd wych o fwynhau'r awyr agored a darparu ffrwythau a llysiau ffres i chi'ch hun. Mae rhandiroedd hefyd yn rhoi noddfa i fywyd gwyllt mewn trefi a dinasoedd. Beth am gael gwybod am fanteision rhandir, y gwahanol fathau o randiroedd a beth y gallwch ddisgwyl ei gael?

Bwyta'n wyrdd

Mae cynhyrchu, cludo a bwyta bwyd yn gyfrifol am bron i draean o'r cyfraniad at newid yn yr hinsawdd. Mae hefyd yn ychwanegu at broblemau amgylcheddol eraill megis llygredd dŵr. Os hoffech wneud dewisiadau mwy gwyrdd am y ffordd yr ydych yn bwyta, gallwch wneud pethau fel prynu bwyd â llai o ddefnydd pecynnu a phrynu o farchnadoedd lleol. Mae prynu eich bwyd gan gynhyrchwyr lleol yn syniad da. Bydd yn helpu o ran iechyd a'r amgylchedd, yn ogystal â chefnogi busnes lleol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU