Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Canllawiau i ddysgwyr hŷn

Os ydych chi dros 50 ac yn awyddus i newid gyrfa, meithrin eich sgiliau neu hyd yn oed gyfarfod â phobl newydd, yna, efallai mai cwrs dysgu i oedolion yw'r ateb. Gallwch gael cyngor am ddim i'ch helpu i benderfynu.

Cymwysterau a chyrsiau i bobl dros 50

Gall dysgu'n hwyr yn eich oes fod yn hwyl a hefyd fe allwch roi hwb i'ch sgiliau. Pam na wnewch chi'n fawr o'ch amser rhydd drwy ddysgu iaith, dilyn diddordeb ar gwrs gwin neu arddio, neu ystyried dysgu yn y gwaith neu wneud gradd academaidd.

Chwilio am gwrs

Gallwch ddod o hyd i fanylion cysylltu colegau a darparwyr hyfforddiant sy'n addas ar eich cyfer er mwyn i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol.

Gwneud cais am gwrs dysgu i oedolion

Mae'r broses ymgeisio'n amrywio o'r naill goleg a chwrs i'r llall. Yma fe gewch wybod sut mae cael help a chyngor wrth wneud cais am gwrs, a oes angen i chi lenwi ffurflen gais, mynd am gyfweliad neu ddarparu geirda.

Cymorth gyda chostau dysgu

Gallech gael cymorth ariannol tuag at eich costau dysgu, a chostau perthnasol fel teithio a gofal plant. Gallwch hefyd gael cyngor diduedd am y cymorth sydd ar gael gan ymgynghorydd dysgu dros y ffôn neu drwy e-bost.

Grant Dysgu i Oedolion

Grant prawf modd yw'r Grant Dysgu i Oedolion. Os ydych chi dros 50, mae'n darparu taliad wythnosol yn ystod y tymor ar gyfer oedolion sy'n astudio ar gwrs amser llawn ar gyfer eu cymhwyster Lefel 2 cyntaf (pum TGAU neu gymhwyster cyfatebol).

Canllaw i gymwysterau

Mae cymwysterau'n profi eich bod wedi ennill gwybodaeth a'ch bod wedi meithrin sgiliau penodol ac fe allan nhw'ch helpu i gael gwell swydd neu i ddysgu rhywbeth newydd. Mae cyngor am ddim ar gael i'ch helpu i benderfynu ar y cymhwyster mwyaf addas i chi a sut mae cael y cymhwyster hwnnw.

Dysgu yn eich cymuned

Gallwch ddysgu unrhyw ddiwrnod ac unrhyw bryd, a hynny yn eich llyfrgell leol, mewn amgueddfa, sinema, oriel gelf neu wrth grwydro o gwmpas eich cynefin. Mae gan lawer o lyfrgelloedd, amgueddfeydd ac orielau hefyd adrannau dysgu rhagorol ar eu gwefannau.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU