Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymwysterau a chyrsiau i bobl dros 50

Gall dysgu'n hwyr yn eich oes fod yn hwyl a hefyd fe allwch roi hwb i'ch sgiliau. Beth am ddod o hyd i'r amser i ddysgu iaith newydd, meithrin diddordeb ar gwrs arbenigol neu ystyried dysgu seiliedig ar waith neu radd academaidd?

Dysgwyr hŷn a chymwysterau

Mae cymwysterau'n profi bod gennych y sgiliau penodol, boed y rheiny'n ymarferol, yn ddeallusol neu'n gymdeithasol. Mae dau fath o gymwysterau - cymwysterau academaidd sy'n ymwneud â chyrraedd safonau addysgol arbennig, a chymwysterau galwedigaethol sy'n ymwneud mwy â sgiliau ymarferol ac sy'n dangos eich bod yn gymwys i wneud swydd neu alwedigaeth benodol.

Os mai dysgu yn eich oriau hamdden yr ydych chi, go brin mai ennill cymhwyster fydd eich prif nod. Bydd a wnelo fwy â dilyn diddordeb yn fwy manwl mewn ffordd sydd â mwy o strwythur iddi, er y gallai fod yn garreg gamu tuag at ddysgu mwy ffurfiol yn ddiweddarach.

Pa gymorth a chyngor arall sydd ar gael i bobl dros 50?

Gallwch gael cyngor ac arweiniad diduedd am ddim drwy ffonio llinell gymorth learndirect ar 0800 100 900 rhwng 8.00 am a 10.00 pm, saith diwrnod yr wythnos. Gall Cynghorydd Addysg Gydol Oes eich helpu i lunio cynllun gweithredu sy'n seiliedig ar eich sgiliau a'ch diddordebau.

Dysgu mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'ch bywyd

Bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd o ddysgu sy'n cyd-fynd â'ch amgylchiadau, boed hynny gartref neu yn y gwaith, yn rhan amser neu'n amser llawn, gyda'r nos, yn ystod y dydd neu ar benwythnos, neu hyd yn oed yn ystod y gwyliau neu fel gwirfoddolwr.

Dod o hyd i gwrs yn agos atoch chi

Mae colegau a'r rhan fwyaf o brifysgolion yn cynnig cyrsiau i fyfyrwyr hŷn. Gallwch ddod o hyd i'ch coleg neu'ch darparwr dysgu agosaf drwy ddefnyddio dolen chwilio am gyrsiau Directgov.

Dysgu seiliedig ar waith

Os ydych chi'n un o'r chwe miliwn a mwy sydd dros 50 ac yn dal i weithio, efallai yr hoffech chi feddwl am ddysgu seiliedig ar waith er mwyn ychwanegu gwerth i'ch gyrfa. Fe allech gael cymhwyster ar lefel prifysgol heb gymryd amser o'r gwaith. Mynnwch sgwrs â'ch tîm adnoddau dynol yn y gwaith neu â'ch undeb am gyrsiau.

Dysgu drwy waith gwirfoddol

Mae gwirfoddoli yn ffordd grêt  i ddefnyddio'ch sgiliau i helpu eraill, ac ar yr un pryd dysgu rhywbeth newydd a all arwain at gymwyster. Mae llu o gyfleoedd gwirfoddoli, felly mae'n werth meddwl am beth yr ydych am wneud a'r hyn yr ydych eisiau gael ohoni.

Cymorth gyda chostau

Mae rhai colegau a chynghorau lleol yn cynnig gostyngiadau ariannol i ddysgwyr hŷn. Mae taflenni Cymdeithas Addysg y Gweithwyr 'Help with your Learning' a 'Learning for Life' yn cynnig gwybodaeth am rai o'r dewisiadau.

Cynigir rhai cyrsiau yn rhad ac am ddim i ddysgwyr hŷn, a dibynnu ar eich amgylchiadau. Gall pob myfyriwr, gan gynnwys myfyrwyr hwn fanteisio ar grantiau ac ysgoloriaethau, os gallant ddangos bod angen help ariannol arnynt. Os ydych chi'n dysgu trwy'r gwaith, fe allai eich cyflogwr neu'ch undeb llafur eich helpu gyda'r costau.

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU