Os ydych chi dros 50 ac yn ystyried newid eich gyrfa neu wella eich cyfleoedd o ganfod gwaith, mae cymorth ar gael i bobl dros 50. Does dim rhaid i ddysgu yn y gwaith fod yn ffurfiol – gallwch ddysgu yn y gymuned a rhannu eich sgiliau.
Rhoddir gwerth mawr ar sgiliau a phrofiad pobl hŷn mewn cymunedau. Gallwch ddefnyddio eich profiad gwaith drwy ddod yn fentor neu hyfforddwr. Ar yr un pryd, gallwch ddatblygu eich sgiliau rhyngbersonol eich hun, dod yn fwy deallus a chymryd rhan weithredol yn eich cymuned.
Nid yw bob amser yn hawdd cael amser i ddysgu, ond mae amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu hyblyg ar gael i'ch helpu i drefnu pethau o gwmpas eich ffordd o fyw. Cewch ddewis pa bryd ac ymhle i ddysgu, a chael help a chymorth gyda'r dysgu hwnnw.
Gall gwirfoddoli fod yn ffordd wych o ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i helpu pobl eraill, ac ar yr un pryd, byddwch chi'n dysgu rhywbeth newydd a all arwain at gymhwyster. Mae llu o gyfleoedd ar gael i wirfoddoli, felly mae'n werth meddwl beth rydych chi'n awyddus i'w wneud a pha fudd rydych chi'n awyddus i'w gael ohono.
Mae'n bosibl y gallwch chi gael Benthyciad Datblygu Gyrfa i'ch helpu i dalu am addysg neu ddysgu galwedigaethol. Pan fyddwch chi'n astudio, ac am fis wedyn, bydd y llywodraeth yn talu'r llog. Yna, pan ddaw eich cwrs i ben, byddwch yn dechrau talu'r benthyciad yn ôl.
Os ydych chi'n chwilio am gyngor ar ddysgu personol a gyrfaoedd, gallwch ei gael mewn ffordd sy'n addas i chi. Gallwch gyfarfod cynghorydd wyneb yn wyneb, sgwrsio dros y ffôn neu gysylltu â chynghorydd drwy e-bost - pa bynnag un sydd fwyaf cyfleus.