Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dod yn hyfforddwr neu'n fentor

Gwerthfawrogir sgiliau a phrofiad pobl hŷn yn fawr mewn cymunedau. Gallwch wneud defnydd da o'ch profiad gwaith drwy ddod yn fentor neu'n hyfforddwr. Yn gyfnewid am hynny, gallwch ddatblygu eich sgiliau ymwneud-â-phobl eich hun a dal i fod yn weithgar ac yn rhan o'ch cymuned.

Beth ydy mentora a hyfforddi?

Pwrpas mentora a hyfforddi yw datblygu pobl a'u helpu i wneud yn fawr o'u talentau, a hynny ar lefel broffesiynol neu ar lefel bersonol.

Fel mentor neu hyfforddwr, byddech yn cynnig arweiniad a chyngor am faterion ymarferol, gan osod nodau a sicrhau canlyniadau o fewn amserlen benodol. Byddech hefyd yn gefn i bobl ac yn eu hannog.

Y gwahaniaeth rhwng mentora a hyfforddi

Mae'r ddau beth yn gorgyffwrdd i raddau. Fodd bynnag, fel arfer bydd gan fentor brofiad uniongyrchol yn y maes lle bydd angen yr help. Dydy hyfforddi ddim bob amser yn gofyn am brofiad uniongyrchol yn yr un maes galwedigaethol.

I gael gwybod rhagor am waith mentoriaid a hyfforddwyr, mae'r Rhwydwaith Hyfforddi a Mentora'n cynnig gwasanaeth gwybodaeth am ddim.

Pam chi?

Fe allai eich gwybodaeth chi fod yn amhrisiadwy i rywun sydd ar fin cychwyn, naill ai mewn busnes, neu'n newid crefft neu broffesiwn, neu'n wir unrhyw un sydd ar groesffordd.

Gwahanol fathau o fentora

Bydd mentoriaid busnes yn cynghori ac yn cefnogi busnesau sy'n cychwyn neu'n cynorthwyo pobl sy'n newydd i grefft neu broffesiwn arbennig.

Mae gan rai busnesau fentoriaid yn y gweithle. Bydd y rhain yn cynnig esiampl adeiladol i bobl ifanc sydd wedi mynd ar gyfeiliorn, gan eu helpu i ddychwelyd i fyd addysg neu fyd hyfforddi.

Bydd mentoriaid mewn ysgolion yn gweithio gyda'r ysgol a rhieni i godi safonau a disgwyliadau, naill ai drwy gysylltiad un-ac-un neu mewn grwpiau bach. Byddan nhw'n gweithio yn yr ystafell ddosbarth, yn helpu gyda gwaith cartref a gwaith cwrs ac yn cefnogi disgyblion wrth iddynt wneud profiad gwaith.

Bydd mentoriaid gadael-gofal yn helpu pobl ifanc sydd ar fin gadael gofal drwy roi cyngor ymarferol iddynt yn ogystal â chefnogaeth emosiynol megis meithrin hyder.

Pa rinweddau sydd eu hangen?

Bydd angen i chi ddangos ymrwymiad a pharodrwydd i wneud y gwaith a'i ddilyn i'r pen draw. Gall unrhyw un fwy neu lai ddod yn hyfforddwr neu'n fentor. Ond yr hynaf yr ydych chi, mwyaf tebygol yw hi bod gennych sgiliau a gwybodaeth benodol i'w trosglwyddo.

Dyma rai o'r rhinweddau penodol a all fod yn ddefnyddiol:

  • arbenigedd proffesiynol neu arbenigedd busnes
  • sgiliau cyfathrebu da
  • amynedd
  • bod yn dda am wrando
  • bod yn rhywun sy'n gallu camu yn ôl pan fydd angen

Beth yw'r gofynion?

Does dim gofynion proffesiynol. Mae'r Sefydliad Mentora a Chyfeillio wedi sefydlu'r Safon Darparwr Cymeradwy yn feincnod cenedlaethol ar gyfer mentora. Fe'i cefnogir gan y llywodraeth a'i nod yw gwella medrusrwydd a hybu dull diogel o ymarfer.

Gall yr ymrwymiad o ran amser amrywio o ychydig oriau yr wythnos neu'r pythefnos i rhwng tair a chwech awr unwaith y mis.

Mae cyrsiau hyfforddi ar gyfer mentoriaid a hyfforddwyr ar gael gan y Rhwydwaith Hyfforddi a Mentora.

Beth yw'r manteision?

Gall mentora feithrin hunan-gred a hunan-hyder mewn pobl eraill gan wella'u cymhelliant a'u sgiliau personol a chymdeithasol a gwella'u siawns o gael swydd.

Mewn ysgolion, gall godi lefelau cyflawni, yn ogystal â gwella statws yr ysgol yn y gymuned, gan atgyfnerthu pwysigrwydd addysg a datblygu cysylltiadau â byd busnes.

Rhai o'r manteision i chi yw y bydd yn eich cadw chi'n brysur ac yn rhan o fywyd eich cymuned, bydd yn datblygu eich sgiliau ymwneud-â-phobl ac yn eich helpu i ddeall pobl eraill yn well.

Fydd gwneud gwaith hyfforddi neu fentora'n effeithio ar eich budd-daliadau?

Cyn belled â'ch bod yn gweithio'n ddi-dâl fel mentor neu hyfforddwr, ni fydd unrhyw effaith ar eich budd-daliadau.

Cymryd rhan: pwy y dylech gysylltu â nhw?

Mae llawer o elusennau'n croesawu cymorth mentoriaid a hyfforddwyr. Er enghraifft, bydd Ymddiriedolaeth y Tywysog yn helpu pobl 14 i 30 oed i oresgyn rhwystrau a datblygu eu sgiliau.

Mae gwybodaeth am Ymddiriedolaeth y Tywysog a'i chynlluniau mentora ar gyfer busnes a'r rhai sy'n gadael gofal ar wefan Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Mae gan y Rhwydwaith Hyfforddi a Mentora wasanaeth ar y we i bobl sydd naill ai'n darparu gwasanaeth hyfforddi neu fentora neu sy'n chwilio am gymorth.

Mae gan y Sefydliad Mentora a Chyfeillio wybodaeth am sut i gymryd rhan yn y maes hwn hefyd.

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU