Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hyfforddiant ar ddefnyddio'r we a chyfrifiaduron i bobl dros 50

Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y rhyngrwyd, bydd angen sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol arnoch ac os nad yw'r rheiny gennych eisoes, mae 'na gyrsiau ar gael i'ch rhoi ar ben ffordd. Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio'r rhyngrwyd erbyn hyn, ac mae nifer y bobl hŷn sy'n syrffio'r we'n cynyddu'n gyflym iawn - defnyddwyr dros eu 50 oed fydd y mwyafrif sy'n siopa ar-lein erbyn 2010.

Am y rhyngrwyd

Rhwydwaith o gysylltiadau yw'r rhyngrwyd, lle bydd miliynau o bobl wedi'u cysylltu â'i gilydd drwy eu cyfrifiaduron.

Manteision

Wrth 'syrffio'r we', fe fyddwch yn gallu cael gafael ar amrywiaeth eang o wybodaeth heb adael eich cartref.

Gall y rhyngrwyd fod yn adnodd anhygoel os ydych am chwilio am wybodaeth am bwnc, neu bori drwy wefan ocsiwn ar y we, dod o hyd i'r fargen orau wrth brynu car newydd neu ddarllen am faterion sy'n ymwneud ag iechyd neu hanes lleol. Gallwch drefnu'ch gwyliau, gwneud ymchwil i'ch coeden deulu neu sgwrsio ar-lein.

Mae rhai gwefannau - megis gwefan chwilio Google - yno i'ch helpu i ddod o hyd i'r union beth rydych chi'n chwilio amdano ar-lein ac maen nhw'n cynnig cyngor da am sut i chwilio a chael ateb i'ch ymholiadau.

Cyrsiau am y rhyngrwyd a hyfforddiant cyfrifiadurol

Mae'r rhan fwyaf o'r dysgu'n anffurfiol, ond petai'n well gennych gael rhywbeth â mwy o strwythur iddo, mae amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi ar gael yn lleol ac yn genedlaethol.

learndirect

Mae learndirect yn cynnig cyrsiau ar-lein, a gwybodaeth am y rhwydwaith o ganolfannau learndirect.. Gallwch chi gysylltu â learndirect ar 0800 101 901 rhwng 7.00am ac 11.00pm, o ddydd Llun i ddydd Sul.

Mynd ar y we a hyfforddiant yn eich cymuned

Yn aml iawn, bydd gan eich llyfrgell leol neu'ch canolfan gymuned gyfrifiadur i chi fynd ar y we yn rhad ac am ddim. Mae'n bosib hefyd y bydd eich cyngor lleol neu'ch coleg cymuned yn cynnig cyrsiau.

Mae canolfannau ar-lein y DU ar gyfer pobl nad yw'n bosib neu'n hawdd iddyn nhw fanteisio ar dechnolegau newydd. Mae'r canolfannau'n helpu pobl i ddatblygu'r sgiliau sy'n ofynnol er mwyn defnyddio'r Rhyngrwyd i gael gafael ar wybodaeth ac anfon neges e-bost.

Mae Age Concern yn hybu'r defnydd o gyfrifiaduron i bobl hwn ac yn darparu sesiynau dysgu mewn swyddfeydd lleol. Maen nhw hefyd yn cynnig 'sesiynau blasu' drwy roi hyfforddiant cyfrifiadurol i bobl hwn.

Talu am hyfforddiant cyfrifiadurol

Mae'n werth edrych ar y gwahanol ffyrdd gallwch dalu am hyfforddiant.  Efallai gallwch dderbyn cymorth i dalu am gwrs.

Sefydliadau i bobl dros 50 ar y we

Safle sgwrsio ar y we i bobl dros 50 yw'r Baby Boomer Bistro. Ei nod yw annog pobl i sgwrsio â'i gilydd yn ogystal â gydag arbenigwyr gwadd.

Mae'r diwrnod blynyddol i Syrffwyr Hŷn yn cynnal diwrnodau ledled y wlad i er mwyn i chi gael blas ar sut y gall y rhyngrwyd gyfoethogi'ch bywyd.

Helpu rhywun arall i ddechrau defnyddio’r rhyngrwyd

Os oes gennych ffrind neu aelod o’r teulu sydd am ddechrau defnyddio’r rhyngrwyd, mae yna wefannau i’w helpu i ddysgu ac i awgrymi sut allwch chi eu cefnogi.

Addasu cyfrifiadur os oes gennych ofynion arbennig

Mae nifer o ffyrdd ar gael i wneud cyfrifiadur yn haws ei ddefnyddio os na allwch chi ddefnyddio bysellfwrdd. Gall llun o fysellfwrdd ar y sgrîn wneud pethau'n haws. Gellir dewis llythrennau o'r bysellfwrdd ar-y-sgrîn gan ddefnyddio'r llygoden neu ffon reoli.

Mae gan y rhan fwyaf o gyfrifiaduron ddewisiadau sylfaenol eraill yn rhan ohonyn nhw, er enghraifft:

  • gwasanaeth 'troi testun yn llais'
  • chwyddwydr sy'n chwyddo'r rhan o'r sgrîn y byddwch chi'n pwyntio ati

Os ydych yn fyddar neu â nam ar eich clyw, mae gan rai cyfrifiaduron arddangosiadau ar-y-sgrîn sy'n 'dweud' wrthych pan fydd eich cyfrifiadur yn gwneud sain rhybudd, er enghraifft, pan dderbynnir neges e-bost.

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU