Gall dysgu am hwyl fod yn ffordd wych o ymlacio a chymdeithasu. Does dim rhaid iddo fod yn ffurfiol a does dim rhaid i chi ddysgu ar gyfer cymhwyster. Mae cyrsiau am ddim yn hawdd dod o hyd iddynt a gallwch ddewis unrhyw beth - boed hynny'n ddiddordeb newydd neu'n rhywbeth sydd eisoes yn gyfarwydd i chi.
Yn ogystal â dosbarthiadau go iawn, mae llawer o gyrsiau ar-lein ar gael. Gallwch ddysgu unrhyw ddiwrnod ac unrhyw bryd, a hynny gartref neu yn eich llyfrgell leol, mewn amgueddfa, sinema neu oriel gelf.
Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio'r rhyngrwyd erbyn hyn ac mae nifer y defnyddwyr hŷn yn cynyddu'n gyflym - defnyddwyr dros 50 fydd y mwyafrif o'r rhai sy'n siopa ar-lein erbyn 2010. Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y rhyngrwyd, bydd angen sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol arnoch ac os nad yw'r rheiny gennych eisoes, mae 'na gyrsiau ar gael i'ch rhoi ar ben ffordd.
Mae nifer o gyrsiau i'w cael am ddim ac mae llawer o gyfleoedd i ddysgu am ddim ar-lein, gan gynnwys cyrsiau cyfrifiadur ac ieithoedd. Yn aml iawn, bydd gan lyfrgelloedd lleol adrannau dysgu ar eu gwefannau. Gallwch hefyd ddefnyddio'r rhyngrwyd am ddim yn eich canolfan DU ar-lein neu yn eich llyfrgell leol.
Mae nifer o gyrsiau i'w cael am ddim ac mae llawer o gyfleoedd i ddysgu am ddim ar-lein, gan gynnwys cyrsiau cyfrifiadur ac ieithoedd. Gallwch hefyd ddefnyddio'r rhyngrwyd am ddim yn eich canolfan DU ar-lein neu yn eich llyfrgell leol.
Mae nifer o gyrsiau i'w cael am ddim ac mae llawer o gyfleoedd i ddysgu am ddim ar-lein, gan gynnwys cyrsiau cyfrifiadur ac ieithoedd. Gallwch hefyd ddefnyddio'r rhyngrwyd am ddim yn eich canolfan DU ar-lein neu yn eich llyfrgell leol.
Gallwch ddefnyddio'ch cod post i chwilio am gwrs yn eich ardal leol sy'n addas i chi, gan gynnwys dosbarthiadau lleol gyda'r nos neu yn ystod y dydd.