Mae sicrhau eich bod yn cael ymarfer corff rheolaidd ac yn cadw llygad ar yr hyn a fwytewch yn wirioneddol bwysig pan ydych chi dros 50. Gall ychydig o fân newidiadau i'ch trefn ddyddiol wneud llawer i wella eich iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â'ch ansawdd bywyd ar gyfer y dyfodol.
Gall fwyta'n iach wella ansawdd eich bywyd ac yn eich helpu i osgoi clefydau sy'n gysylltiedig â heneiddio. Gallwch wneud llawer i gyflwyno bwydydd iachach i'ch deiet heb orfod rhoi'r gorau i rai o'ch hoff fwydydd.
Gallwch wneud llawer o bethau i gadw'n symudol ac i gadw'ch annibyniaeth wrth ichi heneiddio. Mae atal cwympiadau'n rhan bwysig o aros yn weithgar. Ond os byddwch chi neu'r sawl yr ydych yn gofalu amdano yn cael cyfres o gwympiadau, mae camau y gallwch eu cymryd i wella diogelwch.
Trwy gadw'n gorfforol weithgar, bydd eich iechyd a'ch ansawdd bywyd yn gwella a hefyd gall eich helpu i fyw'n hirach. Gall gweithgaredd corfforol olygu unrhyw beth o dasgau bob dydd fel glanhau'r tŷ i ymarfer corff penodol fel cadw'n heini neu nofio.
Dengys astudiaethau nad yw dirywiad meddyliol yn rhan anochel o heneiddio. Mae pobl gyda bywydau llawn ysgogiad deallusol yn fwy tebygol o beidio â chael cyflyrau dementia megis clefyd Alzheimer. Mae’n bosibl cadw eich ymennydd yn heini ac ymdopi â newidiadau yn eich gallu meddyliol.
Mae bwyta’n iach a gwneud ymarfer corff yn ffyrdd gwych o fyw bywyd sy'n fwy iach ac yn fwy heini. Maent yn lleihau’r perygl o glefyd y galon, rhai mathau o ganser, diabetes a phwysedd gwaed uchel, a gallai eich cynorthwyo i gyrraedd pwysau iach a chadw at y pwysau hwnnw.
Gallwch wella'ch ffitrwydd drwy dreulio 30 munud y diwrnod yn gwneud gweithgarwch corfforol fel garddio, nofio, neu gerdded. Mae'n hawdd hefyd i chi ddod o hyd i gyfleusterau hamdden lleol lle gallwch chi fynd i gymryd rhan mewn chwaraeon fel tenis, sboncen, neu ddosbarthiadau cadw'n heini ac mae gwybodaeth ar gael hefyd am ddigwyddiadau chwaraeon lleol a chenedlaethol.