Daw materion iechyd yn fwyfwy pwysig pan ydych chi dros 50 oed. Bydd adnabod arwyddion posibl salwch, cael profion sgrinio rheolaidd ar gyfer canser a bod yn ymwybodol o risgiau iechyd posibl yn eich rhoi ar ben ffordd i amddiffyn eich hun yn feddyliol ac yn gorfforol.
Daw cyflyrau megis dementia ac iselder yn fwy tebygol wrth i chi fynd yn hŷn. Os ydych yn poeni y gallech fod yn datblygu symptomau, gall eich meddyg wneud asesiad. Pe bai arnoch angen gofal ychwanegol, rydych yn llawer mwy tebygol o gael cefnogaeth yn eich cartref eich hun, am gyhyd ag sy'n bosibl, yn hytrach na chael eich annog i fynd i gartref gofal neu ysbyty.
Os ydych chi'n fenyw dros 50 oed, gall clefydau megis canser y fron neu faterion sy'n ymwneud â'ch iechyd, megis osteoporosis a'r menopos, fod yn destun pryder arbennig i chi. Drwy wybod mwy am y pethau hyn, bydd gennych well syniad am sut i ofalu am eich iechyd a sut i warchod eich hun.
Trwy ganfod canser o'r fron a chyflyrau eraill ar y fron yn gynnar y ceir y siawns orau o driniaeth lwyddiannus. Mae Rhaglen Sgrinio'r Fron y GIG yn cynnig gwasanaeth sgrinio'r fron bob tair blynedd i bob menyw yn y DU sy'n 50 neu drosodd.
Ceir nifer o faterion iechyd ac afiechydon a all effeithio ar ddynion dros 50 oed. Gall problemau prostad, clefyd y galon, canser y bledren ac analluedd rhywiol fod yn destun pryder arbennig.
Gydag unrhyw broblem prostad, mae’n bwysig siarad â’ch meddyg i weld goblygiadau'ch symptomau. Mae tri phrif beth a allai fynd o'i le gyda'ch prostad – hyperplasia prostatig anfalaen (benign), llid ar y brostad (prostatitis), a chanser y brostad. Drwy ddeall symptomau'r cyflyrau hyn, byddwch wedi'ch paratoi'n well i amddiffyn eich hun.