Trwy gadw'n gorfforol weithgar, bydd eich iechyd a'ch ansawdd bywyd yn gwella a hefyd gall eich helpu i fyw'n hirach. Nid yw hi byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i ddechrau.
Mae gweithgarwch corfforol yn golygu unrhyw beth o dasgau bob dydd megis glanhau'r tŷ, garddio neu fynd â'r ci am dro i ymarfer penodol megis cadw'n heini, nofio, golff, pêl-droed neu denis. Dyma rai o fanteision cadw'n gorfforol weithgar:
Trwy aros yn gorfforol weithgar, rydych hefyd yn debygol o aros yn annibynnol yn hirach. Gall ymarfer eich gwneud yn gryfach. Byddwch yn teimlo'n fwy hyderus ac yn rhan o fywyd.
Cofiwch, cyn dechrau ar drefn ymarfer newydd, mae'n syniad da siarad â'ch meddyg i ddechrau. Mae eich meddyg lleol hefyd yn fan cychwyn da ar gyfer dysgu am ymarfer er lles eich iechyd.
Mae segurdod yn eich gadael yn fwy agored i'r canlynol:
Os nad ydych wedi ymarfer ers blynyddoedd - ac amcangyfrifir bod pedwar o bob deg person dros 50 yn gwneud dim neu braidd dim ymarfer - dechreuwch gan bwyll a gwneud mwy yn raddol.
Mae'r arbenigwyr yn argymell hanner awr o ymarfer cymedrol bob diwrnod. Gall yr holl ymarfer gael ei wneud mewn un hanner awr, neu wedi'i rannu'n dri chyfnod o ddeng munud.
Dechreuwch trwy gerdded am bum munud yn eich parc lleol ac wedi adeiladu'n raddol i'r 30 munud llawn.
Os ydych rhwng 50 a 70, mae hanner awr o weithgarwch corfforol cymedrol yn fuddiol - anelwch at ddatblygu'ch cryfder, eich ystwyther a'ch cydbwysedd.
Os ydych dros 70, gall yr ymarfer fod yn ysgafnach gan ganolbwyntio ar gynnal eich ystwythder. Hyd yn oed os ydych yn eich 80au a'ch 90au, gall ymarfer rheolaidd ysgafn helpu i gynnal cryfder y cyhyrau a gwella'ch gallu i symud.
Mae'n hawdd gwneud mwy o weithgarwch corfforol heb orfod gwneud newidiadau mawr i'ch ffordd o fyw. Gallwch ddechrau trwy ei gynnwys yn eich bywyd bob dydd heb fawr ddim ymdrech na chynllunio. Gallwch:
Mae 'na lawer o ffyrdd eraill o gadw'n heini. Gallech fynd i ddosbarthiadau Tai Chi, chwarae bowls, mynd i nofio, cerdded neu seiclo.
Mewn rhai ardaloedd, mae'r cynghorau lleol yn cynnig dosbarthiadau ymarfer yn rhad neu am ddim yn eu canolfannau hamdden neu chwaraeon.
Mae'r Gymdeithas Cadw'n Heini'n cynnal dosbarthiadau Mature Movers ar draws y wlad.
Mae Extend yn darparu symud adloniannol i gerddoriaeth i bobl dros 60 oed ac i bobl llai abl o bob oed. Am ragor o wybodaeth, gallwch ffonio 01582 832 760.
Efallai fod eich canolfan hamdden leol yn cynnig pasportau hamdden neu docynnau mantais i bobl hwn.
Gallwch gael gwybod mwy am weithgareddau chwaraeon a allai fod yn addas i chi drwy Sport England.