Bydd bwyta'n iach yn gwella ansawdd eich bywyd ac yn eich helpu i osgoi clefydau sy'n gysylltiedig â heneiddio. Gallwch wneud llawer i gyflwyno bwydydd iachach i'ch deiet heb orfod rhoi'r gorau i'ch hoff fwydydd.
Y prif reswm dros ennill pwysau a hynny'n gysylltiedig ag oedran yw bod y gyfradd llosgi calorïau mewn bwyd a diod, sef eich cyfradd fetabolig, yn arafu gydag oedran. Bydd y calorïau ychwanegol yn troi'n fraster ychwanegol dros amser oni wnewch chi newid eich deiet neu wneud mwy o ymarfer.
Faint o fwyd ddylech chi ei fwyta?
Mae ennill pwysau’n ymwneud â faint o egni a gymerwch i’ch corff a faint o egni y bydd eich corff yn ei ddefnyddio. Er mwyn colli pwysau, bydd angen i chi gymryd llai o egni (calorïau) i’ch corff o fwyd a diod nag a ddefnyddir gan eich corff mewn gweithgareddau corfforol. Cofiwch y bydd angen llai o galorïau arnoch yn eich 50au a’ch 60au o’i gymharu â’ch 30au.
Mae faint o fwyd y gallwch ei fwyta heb roi pwysau ymlaen yn gysylltiedig hefyd â faint o ymarfer yr ydych yn ei wneud. Mae gweithgareddau corfforol yn llosgi calorïau, felly gall hyn eich helpu i golli pwysau
Efallai y bydd yn rhaid ichi gymryd llai o galorïau a sicrhau eich bod yn aros yn gorfforol weithgar. Nid yw'n syniad da mynd ar ddeiet gwirion. Gall hynny wneud y gwaith o reoli'ch pwysau yn galetach byth yn yr hirdymor.
I gael y gorau allan o'ch deiet:
Gwneud mwy o weithgarwch corfforol o bosibl yw'r allwedd i reoli eich pwysau wrth ichi heneiddio. Mae bwyta deiet cytbwys, peidio â gorfwyta a bwyta'r bwydydd iawn yn bwysig.
Mae ymchwil yn dangos, er enghraifft, bod cysylltiad rhwng deiet a llawer o glefydau difrifol, megis canser a chlefyd coronaidd y galon. Trwy gerdded yn rheolaidd, rydych yn lleihau cyfradd eich dirywiad corfforol 50 y cant.
Mae'r arbenigwyr yn argymell hanner awr o ymarfer cymedrol bum gwaith yr wythnos. Gall yr holl ymarfer gael ei wneud mewn un hanner awr, neu ei rannu'n gyfnodau byrrach o weithgarwch drwy gydol y diwrnod.
Cofiwch, cyn newid eich deiet neu ddechrau ar drefn ymarfer newydd, mae'n syniad da siarad â'ch meddyg.
Mae’r Adran Iechyd yn cyhoeddi llyfryn ‘Eich pwysau, Eich iechyd’ sy’n cynnwys gwybodaeth am sut i reoli eich pwysau.
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn cyhoeddi cyfres o daflenni a llyfrynnau, gan gynnwys 'Eating for Your Heart', 'So You Want to Lose Weight for Good', 'Get Active' a 'Put Your Heart into Walking'.
Cysylltwch â'r llinell gymorth i gael manylion ar 0845 708 070, o 9.00 am i 5.00 pm ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Gwener; o 8.00 am i 6.00 pm ar ddydd Mercher a dydd Iau.