Wrth ichi heneiddio, efallai y gwelwch ei bod yn fwy anodd cael gwared ar salwch fel ffliw. Gallwch ddiogelu eich hun trwy fanteisio ar y cynlluniau imiwneiddio rhad ac am ddim a gynigir gan y GIG ar gyfer ffliw a chlefydau heintus iawn eraill.
Haint feirysol aciwt yw ffliw o'r clustiau, y trwyn a'r gwddf, sef eich system resbiradol.
I ddechrau, byddwch yn teimlo fel petaech wedi cael annwyd ond os oes ffliw arnoch mae'n debygol y byddwch yn datblygu'r symptomau canlynol:
Pwrpas imiwneiddio yw eich diogelu os ydych yn debygol o ddatblygu salwch mwy difrifol o ganlyniad i gael y ffliw. Rydych yn fwy agored i risg:
Yn yr hydref, o fis Medi ymlaen, darperir brechiad ffliw blynyddol am ddim i bawb dros 65 oed, neu i bawb sydd dros chwe mis oed ac sy'n disgyn i'r grwpiau risg clinigol canlynol:
Mae'n bosib y bydd eich meddyg teulu hefyd yn argymell eich bod yn cael brechiad ffliw os oes gennych glefyd difrifol ar yr iau, sglerosis ymledol neu glefyd dirywiol arall sy'n ymwneud â'r system nerfol ganolog.
Os ydych yn byw neu'n gweithio mewn cartref gofal neu nyrsio neu lety preswyl hirdymor tebyg, gall eich cyflogwr gynnig i chi gael brechiad ffliw.
Dogn bychan iawn o'r un germ ag sy'n achosi'r salwch yw brechlyn. Nid yw'n rhoi'r salwch hwnnw ichi. Yn hytrach, mae'n ysgogi'ch corff i wneud gwrthgyrff a fydd yn ymladd germ y ffliw. Unwaith ichi gael eich imiwneiddio, mae'ch corff yn barod i ymosod ar germ y ffliw sy'n dechrau ymosod ar eich corff.
Germ sy'n effeithio ar yr ysgyfaint neu ar lif yw gwaed yw'r niwmococws. Caiff ei ledaenu trwy dagu, pesychu neu gyffwrdd. Mae'r heintiau y gall eu hachosi yn cynnwys:
Mae pawb mewn perygl ond rydych mewn mwy o berygl:
Dim ond unwaith fel arfer y mae angen imiwneiddiad rhag haint niwmococol, onid oes gennych broblem ar yr arennau neu'r ddueg. Mae gan y canlynol hawl i frechiad niwmococol am ddim:
Byddwch yn cael cynnig brechiad am ddim hefyd os oes gennych:
Ceir mwy o wybodaeth ar wefan Imiwneiddio'r GIG.
Gallwch hefyd lwytho'r daflen 'Imiwneiddio rhag Clefydau Heintus' (Y Llyfr Gwyrdd) i lawr oddi ar wefan yr Adran Iechyd.