Gydag oed, mae rhai cyflyrau iechyd yn dod yn fwy cyffredin. Mae profion meddygol rheolaidd yn ffordd dda o ganfod unrhyw broblemau posibl gan roi'r cyfle gorau i chi fyw a heneiddio'n iach.
Mae'n debyg eich bod wedi cael prawf gwaed neu wrin rywbryd. Mae meddygon yn defnyddio profion meddygol fel hyn i ddysgu mwy am eich iechyd. Gall y canlyniadau dawelu meddwl pobl fod popeth yn iawn neu gallant bennu problemau y mae angen triniaeth arnynt.
Wrth ichi heneiddio, doeth fyddai ystyried cael profion rheolaidd ar gyfer:
Fel arfer byddwch yn cael y profion yn eich meddygfa. Wedyn, gall eich meddyg eich cyfeirio at arbenigwr. Weithiau, gallwch wneud y profion gartref.
Dynion dros 45 oed neu ferched dros 55 oed sydd fwyaf tebygol o ddioddef colesterol uchel.
Mae colesterol uchel yn un o'r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd y galon, yn enwedig os oes gennych bwysau gwaed uchel neu'n ysmygu, yn bwyta deiet uchel mewn braster neu os nad ydych yn cadw'n gorfforol weithgar.
Prawf gwaed syml yw'r prawf am lefelau uchel o golesterol, a thynnir y gwaed o wythïen yn eich braich neu fys.
Gan fod lefelau colesterol yn amrywio gydag amser, mae'n ddoeth cael o leiaf dau brawf gwahanol sawl wythnos neu fis ar wahân cyn dechrau ar unrhyw fath o driniaeth.
Mae eich pwysau gwaed yn dueddol o godi gydag oed. Os oes gennych bwysau gwaed uchel, mae'r risg o gael trawiad ar y galon, strôc neu'r arennau'n pallu yn fwy.
Rhaid profi pwysau gwaed yn rheolaidd. Rhaid ei ailbrofi hefyd ar adegau gwahanol i gael darlleniad cywir.
Mae'n bosibl fod hyd at filiwn o bobl gyda diabetes yn ddiarwybod iddynt, a bydd llawer heb fod yn ymwybodol o hynny tan y byddant yn eu 50au. Mae'n gyflwr iechyd difrifol sy'n llawer mwy cyffredin wrth heneiddio.
Mae'r prawf yn golygu cymryd sampl o wrin i weld a oes glwcos ynddo. Efallai y bydd yn rhaid i chi gael prawf gwaed i gadarnhau'r diagnosis.
Os oes diabetes arnoch, bydd eich risg o gael strociau, clefyd y galon, problemau gyda'r nerfau, y llygaid a'r arennau yn fwy; ac eto gellir osgoi diabetes yn y rhan fwyaf o achosion. Profi ar ei gyfer yw'r cam cyntaf.
Fe'ch cynghorir i gael prawf am ddiabetes ar ôl 40 oed, yn enwedig os ydych yn ordrwm, o dras Asiaidd neu os oes hanes o'r clefyd yn y teulu.
Gall eich golwg fod yn dda hyd yn oed yn eich 80au a'ch 90au os gofalwch am eich llygaid. Cewch brawf llygaid am ddim ar y GIG os ydych dros 60.
Os ydych chi dros 50, cewch brawf llygaid am ddim:
Nid prawf am sbectols yn unig yw'r prawf llygaid. Mae'n bwysig ar gyfer eich iechyd cyffredinol ac i ganfod afiechydon ar y llygad sy'n fwy cyffredin wrth ichi heneiddio, megis glawcoma, cataract a dirywiad macwlaidd.
Mae clyw pawb yn dirywio rywfaint wrth heneiddio. Mae colli clyw sy'n gysylltiedig ag oedran, neu presbyacwsis, yn effeithio ar dros hanner pawb dros 60 oed. Dyma'r ail achos mwyaf cyffredin dros anabledd wrth ichi heneiddio.
Os ydych yn poeni am golli'ch clyw, gall eich meddyg edrych ar eich clustiau a gwneud rhai profion syml, megis gofyn pa synau y gallwch eu clywed. Bydd angen ichi esbonio hefyd pam eich bod yn credu nad yw'ch clyw gystal ag yr oedd.
Os cred eich meddyg eich bod yn colli'ch clyw, gall eich cyfeirio at glinig awdioleg neu adran y Glust, y Trwyn a'r Gwddf (ENT) i gael rhagor o brofion.