Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Aros yn feddyliol weithgar

Dengys astudiaethau nad yw dirywiad meddyliol yn rhan anochel o heneiddio. Mae pobl gyda bywydau llawn ysgogiad deallusol yn fwy tebygol o beidio â chael cyflyrau dementia megis clefyd Alzheimer. Mae’n bosibl cadw eich ymennydd yn heini ac ymdopi â newidiadau yn eich gallu meddyliol.

Y meddwl yn heneiddio

Gall unrhyw un ddioddef o anghofrwydd syml ond mae'n debygol o gynyddu gyda'r broses heneiddio, sydd hefyd yn effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio a'r rhychwant sylw, a’r gallu i addasu i sefyllfaoedd newydd. Fel unrhyw beth arall, defnyddio'ch ymennydd fydd yn gwneud iddo weithio orau.

Gall straen parhaus effeithio ar y meddwl ar unrhyw oed, ond mae digwyddiadau sy'n benodol i oed, megis ymddeol, yn peri straen mawr iawn, fel y mae profedigaethau ac ysgariad. Ar gyfer merched, gall diwedd y mislif (menopôs) arwain at gof gwael a diffyg canolbwyntio, pryder a phanig.

Ymdopi gyda newidiadau i'ch gallu meddyliol

Dim ond rhywbeth i'w ddisgwyl yw newid wrth ichi heneiddio, ond nid yw dirywiad yn anochel. Mae llawer o broblemau'r cof sy'n gysylltiedig ag oedran yn codi oherwydd diffyg canolbwyntio neu gymhelliant gwael, neu bryder a straen.

Mae 'na rywfaint o wirionedd yn y dywediad 'Ei ddefnyddio neu ei golli'. Mater ydyw o gadw eich meddwl mewn cyflwr da er mwyn cadw eich galluoedd meddyliol.

Er mwyn teimlo'n dda’n gyffredinol, mae'n bwysig cadw'n feddyliol iach yn ogystal ag yn gorfforol iach. Bydd yn gwneud ichi deimlo'n well, bydd yn gwella'ch gallu meddyliol ac yn eich helpu i aros yn annibynnol.

Cadw'ch ymennydd yn iach

Mae tri phrif lwybr at feddwl sionc: deiet iach, ymarfer erobig ac ysgogiad meddyliol.

Deiet iach

Gall deiet iach fod yn dda i'ch ymennydd a'ch system nerfol. Gall bwydydd sy'n uchel mewn brasterau dirlawn, fel cacennau, bisgedi, toes neu selsig, gyflymu dirywiad meddyliol. Tra bo bwydydd eraill, megis orennau a llysiau gwyrdd deiliog, pysgod olewog neu soya, yn dda i'r ymennydd.

Ymarfer corff

Mae ymarfer yn hanfodol ar gyfer ystwythder meddyliol. Mae'n cael y galon i bwmpio a'r cylchrediad i weithio, sy'n cynyddu llif y gwaed, gan gludo mwy o faetholion ac ocsigen i'r ymennydd. Mae ymarfer hefyd yn helpu gydag iselder a phryder a mathau eraill o drallod emosiynol.

Ysgogiad meddyliol

Po fwyaf gweithgar yw eich ymennydd, gorau fydd eich cof yn debygol o fod. Po fwyaf o ffyrdd gwahanol y defnyddiwch eich ymennydd, hawsaf fydd cofio ichi.

Ymarfer y meddwl

Mae digonedd o ffyrdd o ymarfer y meddwl yn ddyddiol. Gallwch:

  • mwynhau pos dyddiol neu groesair
  • defnyddio'r cof i wneud symiau yn hytrach na defnyddio cyfrifiannell
  • dysgu'ch rhestr siopa ar eich cof
  • darllen mwy - trwy gychwyn neu ymuno â chlwb llyfrau o bosib
  • chwarae gemau sy'n ymestyn y meddwl, megis bingo, bridge, gwyddbwyll neu gemau cyfrifiadurol
  • aros yn gymdeithasol weithgar - ymuno â chôr lleol neu glwb garddio
  • cychwyn diddordeb newydd - dysgu gwau neu frodio, mae garddio hyd yn oed yn dda i'r ymennydd
  • dechrau cwrs, dosbarth dydd neu nos
  • mynd allan yn amlach gyda ffrind - mwynhewch y sinema, y theatr, orielau
  • dal ati i weithio neu wneud gwaith gwirfoddol - mae cyswllt cymdeithasol yn eich helpu i gofio a chanolbwyntio
  • ymarfer am hanner awr o leiaf dair gwaith yr wythnos

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU