Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Problemau prostad

Mae tri phrif beth a allai fynd o'i le gyda'ch prostad - hyperplasia prostatig anfalaen (benign), llid ar y brostad (prostatitis), a chanser y brostad.

Chwarren y brostad

Dim ond mewn dynion y ceir chwarren y brostad, ac mae'n rhan o system atgenhedlu dynion. Mae o dan y bledren ac oddeutu maint cneuen Ffrengig. Mae'n amgylchynu'r tiwb sy'n cludo wrin o'r bledren.

Mae'r brostad yn bwysig iawn i fywyd rhywiol dyn, gan gynhyrchu rhywfaint o'r hylif mewn semen. Pan aiff rhywbeth o'i le gyda'r brostad, gall effeithio ar fywyd rhywiol dyn, ei iechyd hirdymor a gall canser y brostad arwain at farwolaeth.

Hyperplasia prostatig anfalaen

Mae clefyd anfalaen neu hyperplasia prostatig anfalaen (BPH) yn gyffredin mewn dynion hŷn, gyda'r brostad yn graddol dyfu'n fwy. Gall arwain at gael trafferthion neu boen wrth basio dŵr wrth i'r brostad sy'n tyfu roi pwysau ar y tiwb sy'n cludo wrin o'r bledren. Mae sawl triniaeth ar gael. Mae modd trin BPH ac mae'n anghyffredin mewn dynion o dan 50.

Prostatitis

Gall prostatitis effeithio ar ddynion o bob oed lle ceir llid ar chwarren y brostad. Gall achosi poen ac anhawster wrth basio wrin. Mae modd trin Prostatitis a gall ddigwydd mewn dynion o bob oed.

Canser y brostad

Mae'r risg o ganser y brostad yn uwch mewn dynion hŷn neu ddynion sydd â hanes y clefyd yn y teulu. Mae canser y brostad yn fwy cyffredin hefyd yn y Gorllewin lle mae pobl yn tueddu i fwyta mwy o gynnyrch llaeth a braster anifeiliaid.

Mae'r symptomau'n debyg i broblemau eraill gyda'r brostad, yn arbennig trafferthion gyda phasio wrin, ond mae symptomau eraill sy'n cynnwys poen yng ngwaelod y cefn, poen yn y cluniau neu'r pelfis neu broblemau cael codiad. Gall problemau eraill hefyd achosi'r holl symptomau hyn.

Mae canser y brostad yn datblygu wrth i un gell yn y brostad ddechrau lluosi y tu hwnt i reolaeth a ffurfio tiwmor. Gall rhai celloedd ymryddhau a theithio i rannau eraill o'r corff, gan gychwyn tiwmor newydd. Mae modd trin canser y brostad a gellir ei wella mewn sawl achos. Mae'n anghyffredin mewn dynion o dan 50 ond mae'n dod yn fwy cyffredin wrth i ddynion heneiddio.

Mae canser y brostad yn ymddwyn yn wahanol mewn dynion gwahanol, gyda rhai tiwmorau'n tyfu'n araf iawn ac eraill yn datblygu'n gyflym. Does dim byd y gwyddom amdano y gallwch ei wneud i leihau'r risg i chi o gael canser y brostad.

Mae symptomau clefydau'r brostad yn debyg:

  • angen pasio dŵr yn aml, yn enwedig yn y nos
  • trafferth dechrau pasio dŵr
  • straenio i basio dŵr neu gymryd amser hir i orffen
  • poen wrth basio dŵr neu wrth ddod

Dyma rai symptomau llai cyffredin ar gyfer canser y brostad:

  • poen yng ngwaelod y cefn, y cluniau neu'r pelfis
  • gwaed yn yr wrin (mae hwn yn anghyffredin)

Fodd bynnag, arwyddion o rywbeth arall yw'r rhain yn aml ac nid canser. Mae canser y brostad yn wahanol i'r rhan fwyaf o ganserau - mae rhai canserau'r brostad yn tyfu'n araf ac efallai na fyddant yn peri problemau, ond mae rhai yn tyfu'n gyflym a rhaid cael triniaeth gynnar ar eu cyfer.

Os ydych yn poeni am unrhyw un o'r symptomau hyn, dylech fynd at eich meddyg

Y prawf PSA

Mae'r prawf PSA (Antigen Penodol y Brostad) yn mesur lefel y PSA yn eich gwaed. Mae chwarren y brostad yn cynhyrchu PSA ac mae'n gollwng yn naturiol i'r llif gwaed. Os yw lefel y PSA yn y gwaed yn uwch na'r cyffredin, fe all hynny awgrymu bod canser y brostad yn ei gamau cynharaf. Fodd bynnag, mae cyflyrau eraill sydd heb fod yn ganser (megis y brostad yn chwyddo, prostatitis a haint wrinol) hefyd yn gallu peri i'r PSA godi.

Gall eich meddyg teulu drefnu prawf PSA i chi os oes gennych symptomau clefyd y brostad. Gallwch ofyn am brawf hefyd hyd yn oed os nad oes symptomau arnoch chi, ond fe gewch chi wybodaeth i sicrhau mai cael y prawf yw'r dewis iawn i chi (oherwydd bod arbenigwyr yn anghytuno ynghylch pa mor ddefnyddiol yw'r prawf PSA).

Cael gwybod mwy am broblemau'r brostad

Gydag unrhyw broblem prostad, mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch meddyg i weld goblygiadau'ch symptomau. Gall meddygon teulu ddarparu pecynnau adnoddau a siarad â chi os ydych yn poeni am ganser y brostad.

Gallwch hefyd gysylltu â llinell gymorth gyfrinachol Elusen Canser y Brostad ar 0845 300 8383, neu linell gymorth ddi-dâl CancerBACUP ar 0808 800 1234.



Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU