Mae llawer o bobl hŷn yn credu y byddant yn colli'u hannibyniaeth os cyfaddefant i fod yn anghofus, yn isel neu'n ddryslyd. Anaml iawn y mae hyn yn wir. Rydych yn llawer mwy tebygol o gael cefnogaeth yn eich cartref eich hun, am gyhyd ag sy'n bosibl, yn hytrach na chael eich annog i fynd i gartref gofal neu ysbyty.
Ble i gael cymorth
Y lle gorau i ddechrau yw gyda'ch meddyg, a fydd yn gwneud 'asesiad' cychwynnol. Bydd eich meddyg yn sgwrsio gyda chi am eich teimladau a'ch meddyliau, gweld a oes unrhyw salwch corfforol yn gyfrifol am eich problemau ac ystyried pa driniaeth allai weithio i chi (ac nid yw hyn bob amser yn golygu meddyginiaeth).
Y problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin wrth ichi heneiddio yw dementia ac iselder.
Mae Dementia yn cael ei achosi gan nifer o wahanol glefydau sy'n effeithio ar swyddogaeth yr ymennydd. Mae'r rhain yn cynnwys clefyd Alzheimer a strôc. Mae llawer yn meddwl eu bod yn dioddef o dementia dim ond oherwydd eu bod yn anghofio manylion rhai pethau. Ond gall straen, iselder a heneiddio i gyd effeithio ar eich cof. Dydy'r rhan fwyaf o bobl byth yn profi dementia.
Dementia yw colli'r gallu'n raddol i resymu a chofio. Gall pobl â dementia:
Os ydych chi'n poeni, siaradwch â'ch meddyg. Sicrhewch eich bod yn glir ac yn gryno gyda'ch meddyg; gallwch fynd â rhywun gyda chi neu wneud rhestr o'ch symptomau os yw hynny o gymorth.
Er nad oes modd gwella llawer o achosion o dementia, mae triniaeth a chefnogaeth ar gael sy'n helpu i arafu datblygiad y salwch a gwella ansawdd bywyd y bobl. Mae gwasanaethau arbenigol lleol ar gael a fydd yn gallu ymweld â chi yn eich cartref i gynnig cyngor a chefnogaeth. Gall eich meddyg ddweud mwy wrthych ar ôl iddynt wneud diagnosis.
Mae pawb yn teimlo'n isel ar ryw adeg yn eu bywydau. Gan amlaf mae'r teimladau'n pasio ar ôl ychydig ddyddiau, ond os ydynt yn para am sawl wythnos, mae'n bwysig mynd i weld eich meddyg.
Mae nifer o driniaethau ar gael ar gyfer iselder, gan gynnwys cwnsela, seicotherapi a meddyginiaeth. Os mai meddyginiaeth yn unig y bydd eich meddyg yn ei gynnig i chi, gofynnwch am y triniaethau eraill sydd ar gael. Mae triniaethau amgen ar gael hefyd megis aciwbigo ac ymarfer a all fod yn ddefnyddiol ac mae'r triniaethau hyn ar gael ar y GIG mewn rhai ardaloedd.
Os bydd eich meddyg yn trafod meddyginiaeth gyda chi, mae gennych hawl i siarad am yr opsiynau sydd ar gael a gofynnwch am unrhyw sgîl effeithiau. Gallwch ofyn am farn meddyg arall os nad ydych yn gyfforddus gyda'r wybodaeth a gewch.
Mae gennych hawl i gael eich cyfeirio am driniaeth a gallwch ddweud eich bod am gael eich ychwanegu at y rhestr aros, waeth pa mor hir y bydd rhaid aros.
Nid oes ffordd benodol o atal dementia neu iselder. Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos os ydych yn ymarfer, yn cadw at ddeiet iach, yn cadw'ch ymennydd yn weithgar ac yn gofalu amdanoch chi'ch hun, rydych yn llai tebygol o ddioddef problem iechyd meddwl.
Efallai eich bod eisoes yn ymarfer a does dim rheswm dros stopio. Dengys ymchwil mai ffordd o fyw yw’r rheswm dros golli ffitrwydd – nid henaint. Efallai y bydd angen ichi newid y math o ymarfer yr ydych yn ei wneud, ond mae’r rhai sy’n ymarfer yn llai tebygol o ddioddef iselder.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael tawelwch meddwl wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol. Efallai yr hoffech feddwl am y pethau hyn:
Gallai rhagor o gefnogaeth gan nifer o ffynonellau gan gynnwys gwasanaethau iechyd lleol, elusennau, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymorth lleol fod yn ddefnyddiol.
Mae swydd gofalwr yn llawn her ac mae angen diwallu anghenion iechyd y gofalwyr eu hunain - yn gorfforol ac yn emosiynol - fel eu bod mewn gwell sefyllfa i ymgymryd â'u rôl ofalu.
Ymdrinnir ag Iechyd Meddwl dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a cheir rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl yn yr adran pobl anabl.