Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Canfod a rhoi gwybod am gam-drin yr henoed

Mae cam-drin yr henoed yn cynnwys sawl math gwahanol o niwed i bobl hŷn. Mae’n cynnwys niweidio bwriadol, niweidio heb fwriad ac esgeulustod sy’n arwain at niwed. Os ydych yn teimlo y gallech fod mewn perygl, neu'n poeni am ffrind, perthynas neu gleient, mae ffyrdd o helpu.

Pwy sydd fwyaf agored i niwed?

Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth gyfrinachol a di-dâl Gweithredu ar Gam-drin yr Henoed ar 0808 808 8141.

Y bobl oedrannus sydd fwyaf agored i gael eu cam-drin yw'r rhai sy'n fregus yn gorfforol, yn emosiynol neu'n seicolegol ac yn ddibynnol ar eraill am eu gofal.

Gall cam-drin ac esgeulustod ddigwydd yn y cartref yn ogystal ag mewn cartrefi gofal, cartrefi nyrsio ac ysbytai. Gall fod yn gysylltiedig â gweithwyr gofal, teulu, cymdogion, ffrindiau a dieithriaid.

Mae'r bobl sy'n fwyaf tebygol o gael eu cam-drin gartref yn cynnwys:

  • y rhai sydd wedi'u hynysu'n gymdeithasol
  • unrhyw un gyda salwch sy'n effeithio ar y cof neu ar y gallu i gyfathrebu
  • y rhai nad yw eu perthynas â'u gofalwr yn un da
  • y rhai sy'n darparu cymorth tai, ariannol neu emosiynol i'w gofalwr
  • y rhai sy'n dibynnu ar ofalwr gyda phroblemau cyffuriau neu alcohol

Os ydych yn profi niwed drwy gam-drin neu esgeulustod, neu'n poeni am ffrind, perthynas neu gleient, mae ffyrdd o helpu. Gallwch fynd at weithiwr cymdeithasol, meddyg teulu neu heddwas yn gwbl gyfrinachol.

Sut i ganfod cam-drin yr henoed

Gall cam-drin yr henoed ddigwydd unwaith neu'n gyson dros gyfnodau byr neu hir o amser.

Gall y gamdriniaeth fod yn un o'r canlynol:

  • corfforol - taro, slapio, gwthio, cicio, atal amhriodol, camddefnyddio moddion, monitro annigonol ar bresgripsiynau
  • seicolegol - camdriniaeth emosiynol, bygythiadau o niwed, bygythiadau o adael neu atal gofal, diffyg cyswllt dynol a rhwystro mynediad at bobl sy'n gallu rhoi cyngor neu gymorth
  • rhywiol - pob gweithred rywiol di-groeso
  • ariannol neu faterol, gan gynnwys dwyn oddi wrth berson, twyll, neu orfodaeth gyda golwg ar ewyllysiau ac unrhyw drafodion ariannol
  • esgeuluso neu beidio â gwneud rhywbeth, er enghraifft sicrhau bod y person yn bwyta neu yn gynnes neu'n lân
  • camwahaniaethol - hiliol, secsist, ecsbloetio anabledd neu fathau eraill o harasio neu ddifrïo

Mae rhai arwyddion amlwg i chwilio amdanynt:

  • gwrymiau, briwiau agored, esgyrn toredig a chleisiau nad oes eglurhad drostynt, ac anafiadau heb eu trin
  • glanweithdra gwael a cholli pwysau
  • diymadferthedd ac ofn - neu unrhyw newid sydyn mewn ymddygiad
  • newidiadau anesboniadwy yn sefyllfa ariannol a lles materol y person
  • dogfennau cyfreithiol neu ariannol amheus neu'r dogfennau hynny wedi diflannu

Rhoi gwybod i’r heddlu am gam-drin yr henoed

Mae rhai mathau o gamdriniaeth – gan gynnwys ymosod (rhywiol neu gorfforol) a dwyn a thwyll – yn droseddau, a dylid rhoi gwybod i'r heddlu amdanynt, a all arwain at erlyn yn dilyn ymchwiliad troseddol.

Efallai bod gormod o ofn rhoi gwybod am y gamdriniaeth arnoch, yn enwedig os eich gofalwr sy'n gyfrifol, ond mae gennych hawl i gael eich diogelu gan y gyfraith a hawl i barch ac urddas. Dylai unrhyw un sy'n pryderu bod ffrind, perthynas neu ofalwr yn cael eu cam-drin gymryd camau i atal rhagor o gamdriniaeth a diogelu eraill.

Rhoi gwybod i’r gwasanaethau cymdeithasol am gam-drin yr henoed

Mae gan gynghorau lleol weithwyr cymdeithasol penodol i ddelio â cham-drin neu berygl o gam-drin. Os hoffech siarad â rhywun, gallwch ffonio eich cyngor lleol a gofyn am y Cydlynydd Amddiffyn neu Ddiogelu Oedolion.

Bydd y Cydlynydd Amddiffyn Oedolion yn eich helpu gyda chyngor a gwybodaeth, a bydd yn cymryd camau i sicrhau y caiff pobl sydd mewn perygl o gamdriniaeth eu diogelu a’u cefnogi’n briodol. Gallant wneud gwaith cydlynu ac ymchwilio’r hyn yr ydych yn pryderu amdano, gan drafod gyda’r heddlu lleol a’r GIG.  

Sut mae cwyno’n ffurfiol

Gallwch gwyno’n ffurfiol hefyd. Mae'r Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol yn rheoleiddio cartrefi gofal ac yn arolygu pob cartref gofal a gofrestrir ganddynt. Mae’r Comisiwn hefyd yn cofrestru gwasanaethau gofal mewn cartrefi neu ofal cartref. Dan y gyfraith, rhaid i bob darparwr gofal cofrestredig feddu ar drefn gwyno. Mae gan y gwasanaethau cymdeithasol reolau am y staff a gyflogir ganddynt a safonau'r gofal a ddarparant.

I gwyno, ffoniwch linell gymorth y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol ar 0845 015 0120.

Gallwch gwyno wrth eich cyngor lleol am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob cyngor ymchwilio cwynion ac ymateb iddynt.

Os ydych chi neu berthynas yn yr ysbyty ddim yn cael y gofal priodol, gallwch gwyno wrth y GIG.

Rhagor o gymorth

I gael rhagor o gymorth a chefnogaeth emosiynol, ffoniwch Linell Gymorth ddi-dâl Cam-drin yr Henoed elusen Action on Elder Abuse ar 080 8808 8141. Mae'r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00 am a 5.00 pm.

Neu trafodwch unrhyw bryderon ariannol gyda'ch cyfreithiwr neu Gyngor ar Bopeth (CAB).

Mae'r Swyddfa Gwarcheidiaeth Gyhoeddus yn cynnig diogelwch ariannol i bobl nad ydynt yn gallu delio gyda'u materion ariannol neu sy'n pryderu am gamdriniaeth ariannol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU