Mae archwiliadau meddygol rheolaidd ar gael i'ch helpu i sylwi ar unrhyw broblemau meddygol posibl. Efallai fod rhai gwasanaethau iechyd ar gael i chi am ddim neu am bris consesiwn – megis profion llygaid, gofal deintyddol, presgripsiynau ac imiwneiddiadau. Mae cefnogaeth hefyd ar gael ar gyfer achosion o gam-drin yr henoed.
Daw rhai cyflyrau iechyd yn fwy cyffredin gydag oed. Mae cael profion meddygol rheolaidd yn ffordd dda o ganfod unrhyw broblemau posibl gan roi'r cyfle gorau i chi heneiddio a byw'n iach.
Mae cam-drin yr henoed yn golygu bod person yn troseddu yn erbyn hawliau dynol a sifil unigolyn oedrannus. Os ydych yn teimlo y gallech fod mewn perygl, neu'n poeni am ffrind, perthynas neu gleient, mae ffyrdd o helpu.
Wrth ichi heneiddio, efallai y gwelwch ei bod yn fwy anodd cael gwared ar salwch fel ffliw. Gallwch ddiogelu eich hun trwy fanteisio ar y cynlluniau imiwneiddio rhad ac am ddim ar gyfer ffliw a chlefydau heintus iawn eraill.
Os ydych chi dros 60 oed, mae gennych hawl i gael presgripsiynau a phrofion llygaid am ddim. Gall pobl dros 50 hefyd gael profion llygaid am ddim os bodlonir rhai amodau penodol.
Efallai fod gennych hawl i gael profion llygaid y GIG am ddim a gwasanaethau eraill sy'n ymwneud â'r golwg. Os nad ydych yn gallu gadael eich cartref, gallwch drefnu i optometrydd neu optegydd ddod atoch.
Os ydych yn cael problemau gyda'ch clyw, cysylltwch â'ch meddyg lleol neu'r gwasanaethau cymdeithasol lleol i gael gwybod am yr amrywiol wasanaethau sydd ar gael. Gallwch hefyd gysylltu â’ch canolfan gymorth clyw i ddod o hyd i therapydd clyw.
Os ydych chi'n anabl neu'n dioddef o gyflwr meddygol difrifol, gallai fod yn anodd i chi ymweld â deintyddfeydd. Mae opsiynau ar gael i sicrhau y gallwch gael gofal a thriniaeth ddeintyddol gyflawn.
Mae'n ddigon posibl mai'r unig beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch traed mewn cyflwr da yw dilyn arferion hylendid syml a thorri'ch ewinedd, ond os oes problemau'n codi, mae'n syniad da ceisio cymorth proffesiynol gan giropodydd.
Mae'r rhan fwyaf o driniaethau ar y GIG am ddim, ond efallai y codir tâl am rai pethau. Efallai y cewch gymorth tuag at gostau rhai triniaethau, gwasanaethau ac eitemau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.