Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwasanaeth Olrhain Pensiynau - olrhain hen gynllun pensiwn personol neu gwmni

Mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn cynnig Gwasanaeth Olrhain Pensiynau i'ch helpu i ddod o hyd i gynllun pensiwn personol neu gwmni rydych chi wedi'i golli.

Olrhain cynllun pensiwn

Gall fod yn anodd olrhain eich pensiwn os ydych wedi newid swydd sawl gwaith yn ystod eich oes gweithio ac wedi colli cysylltiad â chyflogwr blaenorol a'i gynllun pensiwn.

Gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau eich helpu i ddod o hyd i hen gynllun pensiwn hyd yn oed os nad ydych chi'n siŵr am y manylion cysylltu. Mae'n gallu chwilio drwy gronfa ddata o dros 200,000 o gynlluniau pensiwn galwedigaethol a phersonol. Mae modd defnyddio'r gronfa ddata hon am ddim, i chwilio am gynllun.

Mae'n bosib y bydd y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau yn gallu rhoi manylion cysylltu cyfredol cynllun pensiwn i chi. Yna, gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i gysylltu â'r darparwr pensiynau a sefydlu unrhyw hawl i bensiwn a all fod gennych.

Manylion i'w ceisio

Mwyaf o wybodaeth y gallwch chi ei rhoi i'r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau, mwyaf tebygol y bydd hi y cewch chi gyfeiriad cysylltu cyfoes ar gyfer y cynllun pensiwn rydych chi'n ceisio'i olrhain.

Os ydych chi'n ceisio olrhain cynllun pensiwn galwedigaethol, dechreuwch drwy weld:

  • a oedd y cyflogwr yn masnachu dan enw gwahanol
  • pa fath o fusnes yr oedd y cyflogwr yn ei redeg
  • a wnaeth y cyflogwr newid cyfeiriad unrhyw bryd

Os ydych chi'n ceisio olrhain cynllun pensiwn personol, dechreuwch drwy weld:

  • beth oedd enw'r cynllun pensiwn personol
  • cyfeiriad y lle a oedd yn rhedeg y cynllun pensiwn personol
  • enw'r cwmni yswiriant a oedd yn ymwneud â'r cynllun pensiwn personol

Cysylltu â'r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau

Gallwch ffonio'r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau ar 0845 6002 537 (llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm), +44 191 218 2466 o dramor, ffôn testun ar 0845 3000 169 neu wrth lenwi ffurflen ar-lein.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU