Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Canllawiau - arian ar ôl ymddeol

Unwaith i chi roi'r gorau i weithio, bydd angen i chi sicrhau bod gennych ddigon o arian i fyw arno. Cael gwybod am bensiynau, mathau eraill o incwm a materion ariannol a all fod yn berthnasol i chi ar ôl ymddeol.

Budd-daliadau a lwfansau treth ar ôl ymddeol

Pan fyddwch chi'n ymddeol, fel arfer bydd gennych lai o incwm. Er mwyn eich helpu i ymdopi, efallai y cewch rai budd-daliadau a chymorth ariannol ar ben eich Pensiwn gan y Wladwriaeth. Mae rhai budd-daliadau'n seiliedig sail oedran, mae eraill yn dibynnu ar eich incwm. Mae lwfansau treth hefyd yn fwy hael ar ôl i chi gyrraedd 65 oed os yw eich incwm o dan ryw lefel benodol.

Talu treth neu beidio ar ôl ymddeol

Ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, ni fyddwch yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol rhagor, ond ni fyddwch o anghenraid yn cael peidio â thalu Treth Incwm. Os yw eich incwm trethadwy - gan gynnwys eich pensiwn - yn fwy na'ch lwfansau di-dreth, byddwch chi'n dal i orfod talu treth.

Sut gaiff incwm eich pensiwn ei drethu

Mae Pensiwn y Wladwriaeth ac unrhyw bensiwn cwmni neu bersonol a gewch chi'n drethadwy. Fel arfer, telir Pensiwn y Wladwriaeth heb dynnu'r dreth, ond gan amlaf bydd y dreth yn cael ei thynnu oddi ar bensiwn cwmni a phensiwn personol cyn i chi eu cael. Mae sut y byddwch chi'n talu treth ar incwm eich pensiwn yn dibynnu ar ba fath o bensiwn sydd gennych a'ch incwm trethadwy cyffredinol. Os ydych chi ar incwm isel, mae'n bosibl y gallwch chi hawlio treth yn ôl.

Hawlio'n ôl os talwyd gormod o dreth yn ystod ymddeoliad

Mae incwm blwydd-daliadau ymddeol a llog ar gynilion (incwm cyson sy'n daliadwy trwy hyd bywyd) yn cael eu trethu fel arfer cyn ichi eu derbyn. Os byddwch ar incwm isel ar ôl ymddeol, efallai y gallwch dderbyn y mathau hyn o incwm yn ddi-dreth. Efallai hefyd y gallwch hawlio treth yn ôl os ydych wedi talu gormod o dreth arnynt yn y gorffennol.

Lwfansau a all ostwng eich treth ar ôl ymddeol

Wrth i chi heneiddio mae rhai lwfansau ar sail oed sy'n gallu gostwng eich treth. Mae rhai o'r rhain yn symiau o incwm nad oes rhaid i chi dalu treth arnynt - eraill yn symiau sy'n gostwng eich bil treth.

Gweithio'n rhan-amser ar ôl i chi ymddeol

Nid yw cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn golygu bod rhaid i chi roi'r gorau i weithio - boed hwnnw'n waith cyflog neu'n waith gwirfoddol. Cewch ddewis dal i weithio tra'n derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, neu ohirio hawlio'ch Pensiwn a chael mwy yn nes ymlaen. Mae'r llywodraeth hefyd yn cynnig cynlluniau a chymhellion i'ch helpu i ddod o hyd i waith.

Pensiynau, budd-daliadau a threth wrth ymddeol dramor

Os ydych chi'n ymddeol dramor, neu'n ystyried gwneud hynny, mae'n bwysig edrych ar yr effaith a gaiff hyn ar eich sefyllfa ariannol cyn i chi fynd. Dylai hyn sicrhau eich bod wedi paratoi'n iawn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU