Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch chi'n ymddeol

Pan fydd ymddeol ar y gorwel, byddwch chi'n meddwl am eich pensiwn a'ch sefyllfa ariannol. Fodd bynnag, os byddwch chi'n ymddeol yn llwyr o'r gwaith neu'n newid eich patrwm gweithio - er enghraifft dechrau gweithio'n rhan-amser neu dros dro - bydd hynny'n golygu newid yn eich ffordd o fyw. Mae'n bwysig ystyried goblygiadau emosiynol ac ymarferol y newidiadau hyn.

Newid eich ffordd o fyw - beth i'w ddisgwyl

Mae ymddeol yn gyfnod newydd, cyfnod sy'n llawn her. Er ei fod yn uchel ar y raddfa straen, mae hefyd yn cynnig cyfle i chi fwynhau cael ail wynt. Rydych yn debygol o fwynhau'r rhyddid i feithrin diddordebau newydd ond ar y llaw arall, mae'n bosib y byddwch chi'n teimlo'n unig, yn ynysig ac yn ddiflas ar brydiau. Cam pwysig yw cynllunio'ch nodau a gweithio tuag atynt.

Os ydych chi'n dal i weithio, holwch am raglenni paratoi ar gyfer ymddeol, gan gynnwys opsiynau gweithio gwahanol o bosib? Bydd rhai cyflogwyr yn cynnig rhaglen o seminarau, gweithdai a gwybodaeth ddefnyddiol at y dyfodol.

Mae mudiadau megis Age Concern a Help the Aged yn ymgyrchu i dynnu sylw at botensial y blynyddoedd ar ôl ymddeol. Mae llawlyfr Age Concern 'Time for Retirement' yn fan cychwyn da. Mae'n ymwneud â sefyllfaoedd ariannol, teithio a gwyliau, iechyd a chymryd rhan yn y gymuned.

Sut y gallai ymddeol effeithio ar eich rôlau a'ch perthynas â phobl eraill

Mae'n bosib y byddwch chi'n teimlo'n wahanol neu'n cael eich gweld yn wahanol gan bobl eraill ar ôl ymddeol. Mae gwaith cyflog yn cael ei weld yn rhywbeth sy'n rhoi statws, rôl, incwm a phwrpas i chi yn ogystal â bod gennych grŵp o bobl i'w rhannu â hwy.

Mae'r newidiadau wrth ymddeol yn gallu dwyn boddhad ac fe all fod yn brofiad adeiladol. Ar y llaw arall, fe all beri straen, greu dryswch a theimlad o rwystredigaeth. Chi sy'n dewis sut y byddwch chi'n addasu. Mae'n bosib y byddwch chi'n dymuno ceisio cymorth y bobl o'ch cwmpas a mudiadau arbenigol, er mwyn mwynhau ymddeoliad sy'n dod â boddhad ac ystyr i'ch bywyd.

Gall ymddeol hefyd olygu eich bod chi a'ch partner gyda'ch gilydd 24 awr y dydd. Mae hynny'n her i unrhyw berthynas, ond fe all ddod â chi'n nes at eich gilydd. Mae'n bosib y byddech chi'n hoffi cynllunio'ch ymddeoliad gyda'ch gilydd a dod o hyd i ffordd o fwynhau'r amser ychwanegol.

Cynllunio ariannol a chyfreithiol

Ydy eich pensiwn yn ddigon? Os ydych chi'n dal i weithio, nid yw'n rhy hwyr i chi wneud iawn am unrhyw ddiffygion. Ydych chi'n ystyried gwneud gwaith amser llawn, gwaith rhan amser neu dros dro efallai, neu ydych chi'n ystyried dychwelyd i weithio? O fis Ebrill 2006 ymlaen, mae rheolau newydd ynghylch pensiynau i'w hystyried. Mae'r dewis gennych eisoes i ohirio derbyn Pensiwn y Wladwriaeth yn gyfnewid am daliad wythnosol uwch neu daliad unswm. Ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â phensiynau, siaradwch â chynghorydd ariannol neu cysylltwch â llinell gymorth y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau ar 0845 601 2923.

Sut i dreulio'ch amser hamdden a chithau bellach yn llai prysur

Bydd angen amser arnoch i addasu i'ch ymddeoliad. Beth bynnag y penderfynwch ei wneud, mae'n bosib y byddwch chi'n gweld eich bod am gadw neu feithrin eich diddordebau, dal i fod yn egnïol a chynnal patrwm rheolaidd i'ch diwrnod.

Mae llawer o amgueddfeydd ac orielau, theatrau a sinemâu, gerddi a chyrsiau golff ac arddangosfeydd crefftau'n cynnig tocynnau rhatach i bobl dros 60. Neu, fe allwch fynd i sioeau am ddim y BBC ac ITV. Mae tocynnau bws a thrên rhad ar gael hefyd i chi gyrraedd y llefydd hyn.

Meithrin hobïau a diddordebau

Os gallwch chi fynd ar y we, mae gwefannau ar gael sy'n ymwneud â diddordebau a hobïau arbennig, yn amrywio o arddio i chwaraeon, i wylio adar neu ddawnsio. Mae'n bosib y byddech chi'n hoffi rhannu'ch diddordeb â phobl eraill, ac mae'n werth ystyried ymuno â chymdeithasau megis y Ramblers.

Gwneud pethau dros bobl eraill

Gall gwaith gwirfoddol ddod â boddhad i chi wrth i chi ddefnyddio'ch sgiliau a'ch arbenigedd er budd pobl eraill. Mae mwy o wybodaeth ar wefan y Rhaglen Wirfoddoli i Bobl Hŷn a Phobl sydd wedi Ymddeol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU