Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth - cymryd Pensiwn y Wladwriaeth yn ddiweddarach

Os byddwch yn gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch naill ai ennill Pensiwn ychwanegol gan y Wladwriaeth neu gael un taliad unswm trethadwy. Gall gwybod pa opsiynau sydd gennych eich helpu i wneud penderfyniadau gwell pan gyrhaeddwch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Beth yw gohirio Pensiwn y Wladwriaeth?

Ystyr gohirio Pensiwn y Wladwriaeth yw eich bod yn dewis peidio â hawlio Pensiwn y Wladwriaeth wrth gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Hefyd, fe gewch ddewis peidio â'i hawlio ar ôl bod yn ei hawlio am gyfnod. Ers cyflwyno Pensiwn y Wladwriaeth, mae pobl wedi gallu ennill Pensiwn ychwanegol gan y Wladwriaeth drwy ddilyn y drefn hon.

Mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei bennu drwy gyfraith. Mae’n 65 i ddynion a anwyd ar neu cyn 5 Ebrill 1959 a 60 i ferched a aned ar neu cyn Ebrill 1950. Mae Pensiwn y Wladwriaeth i ferched a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950 ond cyn 6 Ebrill 1955 yn codi o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020. Bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth i ferched a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1955 yn 65. Bydd yr oedran i ddynion a merched yn codi o 65 i 68 oed rhwng 2024 and 2046.

Nid yw'r oedran ymddeol o'r gwaith yn effeithio ar y dyddiad y cewch chi ddechrau hawlio Pensiwn y Wladwriaeth.

Mwy o ddewis wrth ohirio Pensiwn y Wladwriaeth

Mae pobl bellach yn byw'n hwy ac yn byw bywydau iachach ac felly mae'n gwneud synnwyr i'w gwneud yn haws gweithio'n hyblyg ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Ers 6 Ebrill 2005 ymlaen, os byddwch chi'n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth (os ydych chi'n gweithio ai peidio) cewch ddewis un o'r opsiynau canlynol wrth hawlio.

Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Os byddwch chi'n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am bum wythnos o leiaf, fe allwch ennill cynnydd o 1 y cant ar Bensiwn y Wladwriaeth am bob pum wythnos y byddwch chi'n gohirio hawlio. (Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 10.4 y cant yn ychwanegol ar gyfer pob blwyddyn y byddwch chi'n gohirio hawlio.)

Taliad unswm

Os byddwch chi'n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 12 mis yn olynol a'r rheiny i gyd ar ôl 5 Ebrill 2005, cewch ddewis derbyn taliad unswm untro a thalu Pensiwn y Wladwriaeth ar y gyfradd arferol. Seilir y taliad unswm, pan fyddwch yn ei hawlio, ar y swm o Bensiwn wythnosol arferol y Wladwriaeth y byddech wedi'i dderbyn, yn ogystal â'r adlog ychwanegol ar gyfer pob wythnos.

Fe allwch ohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth gyhyd ag y dymunwch chi er mwyn i chi ennill Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu gael taliad unswm.

Newidiadau i’r rheolau sy’n effeithio gohirio

O 6 Ebrill 20010, ni fydd yn bosib rhagor i hawlio cynnydd o’ch Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer oedolyn arall. Mae hyn yn ‘ychwanegiad oedolion dibynnol’. Mae hyn yn ychwanegiad yn eich Pensiwn y Wladwriaeth am wraig, gŵr neu rywun sy’n edrych ar ôl eich plant, os mae ef neu hi’n cael eu hystyried i fod yn ddibynnol yn ariannol arnoch.

Os ydych eisoes yn gymwys i’r ychwanegiad ar 5 Ebrill 2010, byddwch yn gallu ei gadw hyd nes nad ydych yn cyrraedd y cyflyrau am yr ychwanegiad neu i fyny at 5 Ebrill 2020, pa un bynnag sydd gyntaf.

Os ydych yn hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010, ni fyddwch yn gallu hawlio ychwanegiad ar gyfer oedolyn sy’n dibynnu arnoch chi’n ariannol pan yr ydych yn hawlio eich Pensiwn yn Wladwriaeth yn y diwedd.

Beth os cyrhaeddoch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn mis Ebrill 2005?

Os cyrhaeddoch chi oed Pensiwn y Wladwriaeth cyn mis Ebrill 2005 a'ch bod wedi dechrau hawlio'r pensiwn, cewch ddewis canslo'ch hawliad er mwyn adeiladu'ch hawl i gael Pensiwn ychwanegol y Llywodraeth neu daliad unswm.

Sylwch na allwch chi ond canslo'ch hawliad unwaith fel hyn a dim ond os ydych chi fel arfer yn byw yn y DU. Mae'n bosib y bydd y dewis hwn ar gael i chi hefyd os ydych chi'n byw yn Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir, a'ch bod naill ai'n frodor yn un o'r gwledydd hynny neu fod gennych yr hawl i fyw yno drwy ryw drefniant arall.

Os nad ydych wedi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, pan fyddwch yn ei hawlio yn y pen draw, fe gewch gynnydd ar gyfer y cyfnod hyd at 6 Ebrill 2005 ar sail hen gyfradd Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth (oddeutu 7.5 y cant ar gyfer blwyddyn gyfan). Ar gyfer y cyfnod ar ôl y dyddiad hwnnw, byddwch yn gymwys naill ai i gael cynnydd ar sail cyfradd newydd Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth (oddeutu 10.4 y cant am flwyddyn gyfan) neu, os byddwch chi'n parhau i ohirio'r hawliad am 12 mis arall, daliad unswm.

Dewis gohirio Pensiwn y Wladwriaeth - beth i'w wneud

Os nad ydych chi wedi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth eto ond eich bod yn dymuno ohirio gwneud hynny, does dim rhaid i chi wneud dim byd.

Os ydych chi eisoes yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, ond yr hoffech roi'r gorau i'w hawlio er mwyn ennill Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu gael taliad unswm, dylech gysylltu â'ch canolfan bensiwn. Bydd y rhif ffôn ar unrhyw lythyrau a gawsoch gan eich canolfan bensiwn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU