Os ydych chi dros 50, mae'n bosib bod gennych fwy o amser hamdden, neu efallai eich bod yn chwilio am ddiddordeb neu weithgarwch newydd i'w ddilyn yn eich amser rhydd.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes ond yn ansicr sut i fynd ati i gael gwybod mwy? Mae'n bosib eich bod eisiau gwybod mwy am hanes eich teulu, eich ardal, neu'ch cartref. Mae'n faes sy'n dod â boddhad mawr i rywun ond sut mae cychwyn arni a pha ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i chi?
Ydych chi'n awyddus i gael cyngor am lyfrau da i'w darllen neu fanylion am grwpiau darllen lleol? Efallai yr hoffech chi rentu DVD neu fideo, defnyddio'r rhyngrwyd am ddim neu gael help gyda'ch sgiliau llythrennedd. Mae eich llyfrgell leol yn cynnig y gwasanaethau hyn i gyd.
Ydych chi'n awyddus i gael diwrnod i'r brenin sy'n hwyl ac yn addysgiadol ar yr un pryd? Beth am ymweld ag amgueddfa neu oriel? Mae cannoedd o orielau ac amgueddfeydd ym mhob cwr o wledydd Prydain sy'n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau o hanes lleol i gelf fodern.
Does dim rhaid i ddysgu fod yn ffurfiol a does dim rhaid i chi ddysgu er mwyn cael cymhwyster. Gall dysgu fod yn hwyl ac yn ffordd wych o ymlacio a chymdeithasu. Mae'n bosibl y byddwch yn awyddus i ddatblygu diddordeb sydd gennych eisoes neu ddysgu rhywbeth newydd.
Gallwch gael gwybod am y gweithgareddau hamdden sydd ar gael i bobl dros 50 oed yn eich ardal chi ar wefan eich awdurdod lleol. Gallai'r rhain gynnwys gweithgareddau diwylliannol, chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol eraill a drefnir. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi deipio ble'r ydych chi'n byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol.
Fe allech chi byntio i lawr yr afon neu fod yn beilot ar gwch hir ar gamlas. Beth am gael gwybod rhagor am beth y gallwch ei wneud ar y dyfrffyrdd a mwynhau mynd am dro ar lan yr afon, mynd ar daith rwyfo neu bysgota am awr neu ddwy.
Fe allech chi byntio i lawr yr afon neu fod yn beilot ar gwch hir ar gamlas. Beth am gael gwybod rhagor am beth y gallwch ei wneud ar y dyfrffyrdd a mwynhau mynd am dro ar lan yr afon, mynd ar daith rwyfo neu bysgota am awr neu ddwy.
Ceir llu o lecynnau glas braf, agored yn y DU lle gallwch gael picnic, gêm o griced neu wylio byd natur. Mae'r rhain yn amrywio o lawnt y pentref i un o'r Parciau Cenedlaethol anferth.
Mae mynd am dro yng nghefn gwlad yn ffordd wych o ddarganfod llefydd newydd a mwynhau amrywiaeth a harddwch tirwedd Prydain. Ceir troeon sy'n addas beth bynnag fo'ch diddordebau a'ch gallu, a chithau'n heiciwr brwd ynteu'n grwydrwr achlysurol.
Gallwch wella'ch ffitrwydd drwy dreulio 30 munud y diwrnod yn gwneud gweithgarwch corfforol megis garddio, nofio, neu gerdded. Mae'n hawdd hefyd i chi ddod o hyd i gyfleusterau hamdden lleol lle gallwch chi fynd i gymryd rhan mewn chwaraeon megis tenis, sboncen, neu ddosbarthiadau cadw'n heini ac mae gwybodaeth ar gael hefyd am ddigwyddiadau chwaraeon lleol a chenedlaethol.