Yn aml iawn, mae teithio ar fws neu fws moethus yn ddewis rhad wrth deithio. Hefyd, mae amrywiaeth o brisiau rhatach ar gael ar y bysiau sy'n ei gwneud hi'n rhatach byth i chi fynd o fan i fan.
Mae gan bawb sy'n 60 oed neu'n hŷn hawl i deithio ar fysiau am ddim i unrhyw le yn Lloegr ar adegau tawel. Mae teithio ar adegau tawel yn golygu unrhyw amser ar ôl 9.30 am o ddydd Llun i ddydd Gwener, a thrwy'r dydd ar benwythnosau.
Efallai y bydd awdurdodau lleol yn cynnig manteision ychwanegol i'w preswylwyr, ond dim ond ar gyfer teithio mewn ardaloedd lleol y bydd y rhain yn berthnasol, nid ym mhob man. Holwch eich awdurdod lleol i weld a allwch chi gael gwasanaethau ychwanegol.
Yng Nghymru, os ydych chi dros 60 oed, bydd gennych yr hawl i gael tocyn bws am ddim gan eich awdurdod lleol. Cewch ei ddefnyddio ar unrhyw adeg o'r dydd a bydd gennych hawl i deithio ar fysiau lleol o fewn dalgylch unrhyw gyngor.
Sut mae gwneud cais
Cewch wneud cais i'ch awdurdod lleol neu, mewn ardaloedd trefol, i'ch Awdurdod Cludiant Teithwyr (PTE), sy'n gyfrifol am drefnu cludiant cyhoeddus. Fel arfer, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais a mynd â llun pasport gyda chi ynghyd â phrawf o'ch oedran a'ch cyfeiriad.
Yn yr Alban, mae gan bawb sy dros 60 oed hawl i ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol a gwasanaethau bysiau moethus sy'n teithio'n bell ar unrhyw adeg o'r dydd, gan gynnwys oriau brig y bore, am ddim. Trafnidiaeth yr Alban sy'n gyfrifol am y cynllun hwn a bydd angen i chi wneud cais am Gerdyn Hawl i deithio am ddim.
Gall rhwydwaith bysiau moethus National Express yng Nghymru a Lloegr, a Citylink yn yr Alban, fynd â chi i bob cwr o'r DU.
Yng Nghymru a Lloegr, os ydych chi dros 60 oed byddwch yn gymwys fel mater o drefn ar gyfer prisiau routesixty. Mae hyn yn golygu y cewch chi deithio am hanner pris ar y rhan fwyaf o wasanaethau National Express. I gael gwybod mwy, ffoniwch 08705 808 080. Mae rhai cwmnïau llai, megis Berrys a Baker Dolphin, hefyd wedi'u cynnwys yn y cynllun.
Yn yr Alban, os ydych chi dros 60, mae Scottish Citylink yn cynnig cynllun 'Senior Specials', sef nifer o docynnau mantais i bobl dros 60 sydd yn newid yn rheolaidd. Os oes gennych gerdyn i deithio'n rhatach, mae'n bosib y gallwch chi deithio am ddim ar rai o'u gwasanaethau. I wybod mwy, ffoniwch 08705 505 050.
Gallwch arbed arian drwy gyfuno tocynnau teithio ar fws gyda thocynnau mynediad. Mae nifer o bethau ychwanegol i'w hystyried wrth deithio hefyd, megis pecynnau sy'n cynnwys bws moethus a gwesty mewn maes awyr, yn ogystal â thocyn i'r theatr, sioe neu gyngerdd, yn ogystal â thocynnau i gyrchfannau yn Ewrop.