Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pasportau am ddim i bobl dros 79

Os ydych chi dros 79 ac yn ddinesydd Prydeinig, rydych yn gymwys i gael pasport am ddim. Bydd angen pasport deng mlynedd llawn arnoch os ydych eisiau teithio dramor, hyd yn oed os yw hynny am ddiwrnod yn unig. Rhaid iddo fod yn ddilys ar gyfer cyfnod y gwyliau cyfan.

Gwneud cais am eich pasport

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig ac wedi'ch geni ar neu cyn 2 Medi 1929, gallwch wneud cais am basport deng mlynedd safonol 32 tudalen am ddim gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbort (gynt Gwasanaeth Pasport y DU).

Os ydych wedi gwneud cais am basport ers 19 Mai 2004, a'ch bod yn gymwys i gael pasport am ddim, cewch wneud cais am ad-daliad o'r ffi safonol.

Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbort ddarparu gwybodaeth am gael pasport am ddim neu wneud cais am ad-daliad ar 0870 521 0410. Mae'r gwasanaeth ar gael 24 awr y diwrnod.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am basport mewn sawl ffordd. Bydd angen pecyn cais arnoch, a hwnnw'n cynnwys ffurflen gais, canllawiau a thaflen dalu. Mae'r pecynnau cais ar gael ar-lein, mewn Swyddfa Basport, mewn rhai canghennau o swyddfa'r post a gan asiantau teithio Worldchoice.

Cais ar-lein

Gallwch lenwi cais am basport ar-lein ar wefan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbort. Ar ôl ichi lenwi a chyflwyno'r ffurflen ar-lein, bydd yn cael ei dychwelyd atoch i'w llofnodi a'i dyddio. Bydd angen i chi wedyn gynnwys y lluniau, y dogfennau a'r tâl cywir, cyn ei dychwelyd i Swyddfa'r Gwasanaeth Pasport i'w phrosesu.

Y Swyddfa Basport

Ceir saith o Swyddfeydd Pasport rhanbarthol yn y DU, a gall y rhain gynnig cymorth ychwanegol pan gysylltir â hwy.

Cymorth ar y stryd fawr

Mae nifer o ganghennau Swyddfa'r Post yn cynnig gwasanaeth 'Gwirio ac Anfon'. Am ffi ar gyfer trin y cais, byddan nhw'n anfon yr holl waith papur perthnasol ar gyfer y pasport yn syth at y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbort.

Y gwahanol wasanaethau sydd ar gael

A dibynnu ar ba bryd y bydd angen eich pasport arnoch, mae'r gwasanaethau canlynol ar gael:

  • Premiwm: drwy apwyntiad mewn swyddfa basport - gwarentir eich pasport o fewn diwrnod
  • Trac cyflym: drwy apwyntiad mewn swyddfa basport - gwarentir eich pasport o fewn wythnos
  • Gwirio ac Anfon: mewn rhai canghennau o swyddfa'r post neu asiantau teithio Worldchoice - gadewch bythefnos
  • gwasanaeth post - gadewch dair wythnos
  • gwasanaeth ar-lein - gadewch dair wythnos

Dim ond ar gyfer adnewyddu neu newid pasport neu estyn cyfnod pasport plentyn y mae'r gwasanaeth Premiwm ar gael. Nid yw ar gael i gwsmeriaid sy'n gwneud cais am basport am y tro cyntaf ac nid yw fel arfer ar gael i bobl sy'n gwneud cais am basport yn lle un sydd wedi mynd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi.

Ac eithrio'r gwasanaeth Trac Cyflym a Phremiwm, does dim modd gwarantu amserau dychwelyd bob tro, ac fe all gymryd mwy o amser yn ystod y cyfnodau prysuraf.

Os hoffech ddefnyddio'r gwasanaethau gwarantedig hyn, rhaid i chi drefnu apwyntiad drwy ffonio Llinell Gymorth y Gwasanaeth Pasport ar 0870 521 0410, sydd ar gael 24 awr y diwrnod.

Teithio a'ch pasport

Pan fyddwch chi'n teithio gyda'ch pasport, mae'n syniad da:

  • nodi rhif eich pasport, man ei gyhoeddi, dyddiadau cyhoeddi a dod i ben a chadw'r nodyn mewn man diogel
  • cadw llungopi o dudalen manylion eich pasport ar wahan i'ch pasport
  • gadael llungopi gyda ffrind neu berthynas gartref
  • ysgrifennu manylion llawn eich perthynas agosaf yn eich pasport
  • cadw'ch pasport mewn man diogel pan fyddwch chi dramor

Os digwydd i chi golli'ch pasport neu os caiff ei ddwyn, cysylltwch â'r Llysgenhadaeth Brydeinig, yr Uchel Gomisiwn neu'r Is-genhadaeth ar unwaith.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU