Mae penderfynu dod yn hunan-gyflogedig yn gam mawr, yn enwedig os ydych chi ar fin ymddeol. Ond does dim rhaid i chi gymryd y cam hwn heb gael cyngor. Gallwch gael cymorth gyda chymorth, cyrsiau hyfforddiant a chyllido.
Mae gwahanol ffyrdd o fod yn hunan-gyflogedig:
Os ydych chi'n rhedeg eich busnes eich hun, does dim gwyliau, dim tâl salwch, dim pensiwn a dim incwm rheolaidd, a phob tebygrwydd y bydd rhaid i chi weithio oriau hwy, afreolaidd a dros y Sul o bryd i'w gilydd. Hefyd, bydd rhaid i chi gyflwyno'ch cyfrifon treth eich hun.
Rhai o'r manteision yw nad oes rhaid i chi weithio i neb arall, boddhad, defnyddio'ch profiad, eich talentau a'ch gallu i'r eithaf, annibyniaeth ariannol ac oriau gweithio hyblyg.
Cyn dod yn hunan-gyflogedig, bydd rhaid i chi ymchwilio i'ch syniad busnes a'i ddatblygu. Yna, paratowch gynllun busnes sy'n adlewyrchu beth mae'n rhaid i chi ei wneud i sefydlu a rhedeg busnes.
Mae gan y gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth restr atgoffa ar gyfer dod yn hunan-gyflogedig
Mae'r gwasanaeth cyngor am fusnes cenedlaethol Cyswllt Busnes yn cynnig trefnwr dechrau busnes
Mae'n bosib y gallwch chi gael help ariannol ar ffurf grantiau gan elusennau neu ymddiriedolaethau neu fenthyciadau gan fanciau a chymdeithasau adeiladu.
Mae'r Cyfeiriadur Grantiau a Chymorth (GSD) yn un ffynhonnell bosib ar gyfer cael help gyda chychwyn neu ddatblygu'ch busnes.
Dewis arall yw rhaglen Y Fargen Newydd i rai dros 50. Rhaglen wirfoddol yw hon i bobl dros 50 oed sydd wedi bod yn hawlio budd-daliadau am chwe mis neu fwy ac sy'n awyddus i ddod o hyd i waith.
Mae gan Gyllid a Thollau EM linell gymorth i bobl sydd newydd fynd yn hunan-gyflogedig. Gallwch ffonio 08459 15 45 15 a gofyn am y canllawiau 'Cychwyn Busnes'.
Mae Cyswllt Busnes yn cynnig cyngor am hyfforddiant i'r rheiny sy'n ystyried cychwyn busnes.
Mae learndirect yn cynnig cyngor am hunan-gyflogaeth.
Mudiad cenedlaethol heb fryd ar wneud elw yw Cynllun y Tywysog ar gyfer Menter Aeddfed (PRIME) a'i brif nod yw helpu pobl dros 50 i sefydlu busnes. Ffoniwch y llinell radffon ar 0800 783 1904 i gael gwybodaeth.
Mae Cyswllt Busnes yn ffynhonnell dda o wybodaeth a chyngor. Gallwch ffonio llinell gymorth Cyswllt Busnes ar 0845 600 9006 (minicom 0845 606 2666) - 8.00 am tan 8.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener
Mae gan y gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth restr atgoffa ar gyfer yr hunan-gyflogedig.
Bydd angen digon o arian arnoch i fyw wrth i chi gychwyn y busnes, yn ogystal ag arian er mwyn talu costau cychwyn y busnes.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am dalu eich treth a'ch Yswiriant Gwladol eich hun. Mae'n bosib y dewiswch chi gael cyfrifydd neu, fel arall, cewch gyflwyno ffurflen dreth hunan-asesu ar-lein.
Os mai dechrau busnes newydd drwy'r Fargen Newydd fyddwch chi, fe gewch chi'r un budd-daliadau ag yr oeddech yn eu cael o'r blaen. Mae'n bosib y byddwch chi hefyd yn gymwys i gael ychwanegiad. Os llwyddwch chi i ddod o hyd i waith drwy'r Fargen Newydd, cynigir gwahanol fudd-daliadau, gan gynnwys credydau treth, er mwyn sicrhau eich bod yn well eich byd mewn gwaith nag yr oeddech chi pan oeddech ar fudd-daliadau.
Bydd rhaid i chi dalu treth ar Bensiwn y Wlad pan fyddwch chi'n ei dderbyn.
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddfa bensiwn leol.