Os yw'ch plentyn yn y broses o gael ei fabwysiadau a chithau'n gyndyn o weld hyn yn digwydd, mae'n bwysig eich bod chi'n cael cyngor cyfreithiol cyn gynted ag y bo modd.
Mae'n ddigon posib y gallwch gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol â chymorth ariannol cyhoeddus. Gall twrnai roi mwy o gyngor i chi.
Rhaid i un o ddau beth ddigwydd cyn y gall llys dynnu eich hawliau fel rhiant oddi arnoch er mwyn i'ch plentyn gael ei fabwysiadu; naill ai bydd angen eich cytundeb chi, neu rhaid i'r llys benderfynu bwrw ymlaen heb eich cytundeb.
Mae pob achos yn wahanol, ac ni fydd y llys yn penderfynu bwrw ymlaen i wneud gorchymyn mabwysiadu oni bai ei fod yn credu bod hynny'n angenrheidiol. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, lle mae pryderon am ddiogelwch y plentyn. Bydd y llys yn anfon y dystiolaeth a gasglwyd atoch ac fe ddylech ei thrafod â'ch twrnai cyn gynted â phosib.
Hefyd, bydd y llys yn gofyn i asiantaeth gweithwyr cymdeithasol annibynnol (a elwir hefyd yn warcheidwad plant) ymweld â chi. Eu gwaith nhw yw:
Os ydych yn dymuno, gallwch fynd i'r llys yn bersonol i egluro pam nad ydych yn cytuno y dylai'ch plentyn gael ei fabwysiadu. Ni ellir gwneud gorchymyn mabwysiadu oni bai bod y llys yn hollol argyhoeddedig y byddai mabwysiadu er lles gorau'r plentyn, a byddai'n rhaid iddynt bwyso a mesur eich barn chi wrth ddod at y penderfyniad hwnnw.