Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mabwysiadu perthynas neu lysblentyn

Er mwyn mabwysiadu plentyn eich gŵr neu'ch gwraig neu blentyn perthynas sy'n byw fel arfer yn y DU mae angen rhoi gwybod i'ch cyngor lleol eich bod yn bwriadu mabwysiadu o leiaf dri mis cyn dechrau'ch cais mabwysiadau yn y llys.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd y llys yn gofyn i'ch cyngor lleol lunio adroddiad amdanoch chi, eich gŵr neu'ch gwraig, y plentyn a'r rhieni gwaed, i'w helpu i benderfynu. Gweithiwr cymdeithasol fydd yn paratoi'r adroddiad. Fel arfer, bydd rhaid i riant arall/rhieni eraill y plentyn, sy'n ysgwyddo cyfrifoldebau rhieni, gytuno â'r mabwysiadu - er gall y llys benderfynu nad yw hynny'n angenrheidiol bob amser.

Nid oes rhaid i chi gael eich asesu gan asiantaeth fabwysiadu os ydych yn mabwysiadu perthynas neu lysblentyn sydd fel arfer yn byw yn y DU. Serch hynny, mae'r gyfraith yn mynnu bod rhaid i chi a'ch gŵr/gwraig fabwysiadu'r plentyn, hyd yn oed os bydd un ohonoch chi eisoes yn rhiant i'r plentyn.

Mabwysiadu perthnasau o wlad dramor

I fabwysiadu perthynas o wlad y tu allan i Ynysoedd Prydain (yr hyn a elwir yn fabwysiadu rhwng gwledydd), bydd angen i chi ddilyn yr un broses â mabwysiadu plentyn nad ydych yn ei nabod o wlad dramor.

Pethau i'w hystyried

Pwynt pwysig y mae pobl yn dueddol o'i anghofio yw bod y llys yn edrych ar fabwysiadu o safbwynt y plentyn yn hytrach nag o safbwynt yr oedolyn. Yn naturiol, rhoddir ystyriaeth i ddymuniad yr oedolyn, ond yn y pen draw ni roddir gorchymyn mabwysiadu oni bai bod y llys o'r farn ei fod er lles gorau'r plentyn. Bydd rhai pobl yn teimlo bod rhaid iddynt fabwysiadu eu llys-blentyn er mwyn creu un teulu cyflawn, ond nid yw hynny'n rheswm digonol i'r llys gymeradwyo gorchymyn mabwysiadu.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU