Os ydych am fod yn ofalwr maeth bydd gwahanol fathau o gymorth ymarferol ac ariannol ar gael i chi.
Caiff gofalwyr maeth adolygiad blynyddol a chânt bob hyfforddiant y mae ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn addas i barhau i faethu. Hefyd, bydd gweithiwr cymdeithasol yn eu goruchwylio ac yn ymweld â nhw'n rheolaidd i gynnig cyngor a chymorth i'r gofalwyr maeth a'u teuluoedd.
Mae'r llinell gyngor 'Fosterline' yn rhoi gwybodaeth a chyngor i ofalwyr maeth a phobl sy'n ystyried dod yn ofalwyr maeth. Dyma rai o'r pynciau sy'n codi: honiadau o gamdriniaeth, budd-daliadau, hyfforddiant, dadansoddiad o leoliadau maeth, a materion cyfreithiol sy'n ymwneud â maethu. Mae'r llinell gyngor ar agor rhwng 9.00am a 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a'r rhif rhadffôn yw 0800 040 7675. Gellir cysylltu â nhw drwy fosterline@fostering.net hefyd.
Caiff pob gofalwr maeth lwfans i gwrdd â chost gofalu am blentyn yn eu cartref, a gall rhai gofalwyr hefyd gael tál i gydnabod eu sgiliau, eu hymroddiad neu eu hamser. Mae'n bosib y bydd asiantaethau maethu'n gwneud un taliad i gwrdd â chostau'r ddau o'r rhain. Ar hyn o bryd, yr awdurdod lleol a'r asiantaeth faethu sy'n penderfynu faint o arian a roddir, ond mae'r llywodraeth yn datblygu cynllun i bennu lwfans sylfaenol cenedlaethol i ofalwyr maeth.
Mae'r rheolau cyfredol yn golygu nad yw llawer o ofalwyr maeth y DU yn talu treth ar yr arian y maent yn ei ennill wrth faethu. Caiff gofalwyr maeth eu heithrio bob blwyddyn rhag talu treth am y £10,000 cyntaf o'u hincwm maethu. Wedi hynny, cânt ad-daliad treth am bob wythnos (neu ran o wythnos) y mae plentyn yn eu gofal. Am bob wythnos y bydd plentyn unarddeg oed neu hŷn gyda nhw, bydd ad-daliad treth y gofalwr maeth yn cynyddu £250. Am bob wythnos y bydd plentyn deg oed neu iau yn eu gofal, bydd yr ad-daliad treth yn cynyddu £200.
Am fwy o fanylion am y system ad-daliad treth i ofalwyr maeth, llwythwch y daflen isod oddi ar y we.
Mae gan ofalwyr maeth yr hawl i fod yn rhan o gynllun o'r enw Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP), sy'n eu helpu i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Yrheswm am hyn yw eu bod yn cael llai o gyfle i wneud gwaith cyflogedig tra'u bod yn ofalwyr maeth.
O 2010 ymlaen, bydd credydau wythnosol i rieni a gofalwyr (gan gynnwys gofalwyr maeth) yn disodli'r cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref. Bydd y rhain yn cyfri tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Os byddwch chi'n cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth cyn neu ar ôl 6 Ebrill 2010, bydd unrhyw Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref yr ydych wedi eu derbyn dros y blynyddoedd yn cael eu cyfnewid yn gredydau.