Os byddwch chi'n mabwysiadu plentyn, mae'n bosib y bydd gennych chi'r hawl i 52 wythnos o absenoldeb mabwysiadu. Mae'n bosib hefyd y bydd gennych yr hawl i gael tâl am hyd at 39 wythnos o'r absenoldeb. Dewch i wybod mwy am yr amodau ac am eich hawliau.
Ceir Absenoldeb Mabwysiadu Statudol am 52 wythnos. Ceir Tâl Mabwysiadu Statudol am hyd at 39 wythnos a gellir cael hyd at £117.18 bob wythnos.
Os byddwch chi'n mabwysiadu plentyn ar eich pen eich hun, neu os ydych chi'n un o gwpwl sy'n mabwysiadu gyda'i gilydd, mae gennych yr hawl i gyfnod o absenoldeb mabwysiadu gyda thâl. Gall y cwpwl benderfynu pa un ohonyn nhw sy'n mynd i fod yn absennol gyda thâl. Mae'n bosib y bydd y llall, neu bartner y sawl sy'n mabwysiadu, hefyd yn gallu cael cyfnod o absenoldeb tadolaeth gyda thâl.
Mae absenoldeb gyda thâl ar gael boed y plentyn yn cael ei fabwysiadu o'r tu mewn i'r DU neu o dramor, ond fe all rhai o'r manylion fod yn wahanol i rieni sy'n mabwysiadu o'r tu allan i'r DU.
I fod yn gymwys ar gyfer absenoldeb a thâl, rhaid i chi fod yn 'gyflogai'. Os mai 'gweithiwr' ydych chi, fyddwch chi ddim yn gymwys ar gyfer y cyfnod o absenoldeb ond fe allech fod yn gymwys i gael tâl. Os nad ydych chi'n siŵr ai 'gweithiwr' ynteu 'cyflogai' ydych chi, dilynwch y ddolen isod.
Byddwch yn cael help personol i gael gwybod beth ydych chi'n gymwys ar ei gyfer drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Canllawiau Rhyngweithiol Personol i'ch Hawliau Cyflogaeth (TIGER).
Bydd y gwasanaeth yn cynhyrchu datganiad personol o'r absenoldeb a'r tâl mabwysiadu y gallwch fod yn gymwys ar eu cyfer, ynghyd â chalendr rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch absenoldeb.
Mae'n bosib bod gan eich cyflogwr ei gynllun ei hun ac fe allai hwnnw fod yn fwy hael na'r cynllun statudol. Edrychwch yn eich contract cyflogaeth neu'ch llawlyfr staff i weld y manylion neu holwch eich cyflogwr. Chaiff eich cyflogwr ddim cynnig llai i chi na'r cynllun statudol.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd