Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Teuluoedd gwaed

Mae’r term ‘teuluoedd gwaed’ yn cyfeirio at rieni naturiol plentyn sy’n cael ei fabwysiadu. Yn y ddogfen PDF y ceir dolen ati isod, ceir atebion i lawer o'r cwestiynau y byddai teuluoedd gwaed, o bosib, yn hoffi eu gofyn am fabwysiadu. Ceir atebion i'r cwestiynau canlynol:

  • Rwy'n ystyried rhoi fy mhlentyn i'w fabwysiadu - a oes rhywun y galla i siarad â nhw am hyn?
  • Ga'i drefnu i fabwysiadu'n breifat fy hun?
  • Pa gwestiynau y bydd y gweithiwr cymdeithasol yn eu gofyn i mi?
  • Beth yw'r camau mabwysiadu?
  • Nid wyf am i fy mhlentyn gael ei fabwysiadu - beth alla'i ei wneud?
  • A oes modd diddymu gorchymyn mabwysiadu?
  • Alla'i gadw mewn cysylltiad â'm plentyn ar ôl iddo gael ei fabwysiadu?
  • Gwn y bydd fy mhlentyn yn cael cyfenw newydd ar ôl iddo gael ei fabwysiadu - sut y bydd yn gwybod ei gyfenw gwreiddiol?
  • A fydd fy mhlentyn yn gallu dod o hyd i mi ar ôl cael ei fabwysiadu?

I gael atebion i'r holl gwestiynau hyn, cliciwch ar y ddolen isod.

Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002

Mae'r Ddeddf newydd, a ddaw i rym ar 30 Rhagfyr 2005, yn diweddaru'r gyfraith fabwysiadu. Mae'n rhoi anghenion y plentyn cyn dim byd arall - bydd yr hyn sydd orau iddyn nhw'n cael ei ystyried yn bwysicach na dymuniadau'r oedolion dan sylw.

Os ydych chi'n berthynas i blentyn sydd, o bosib, yn mynd i gael ei fabwysiadu, neu sydd wedi cael ei fabwysiadu, mae'n debyg y bydd gennych lwyth o gwestiynau. Mae'r taflenni isod yn esbonio'r broses fabwysiadu ac yn rhoi manylion am ffynonellau help a chyngor pellach.

Mae'r Ddeddf newydd hefyd yn rhoi hawl newydd i oedolion sydd wedi cael eu mabwysiadu a'u perthnasau gwaed i ofyn am wasanaeth canoli er mwyn olrhain perthynas waed a gweld a fyddai rhywun yn dymuno creu cysylltiad. Mae'r daflen isod yn esbonio beth i'w wneud os ydych am olrhain perthynas waed neu am warchod eich preifatrwydd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU