Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyflwyniad i fabwysiadu rhwng gwledydd gwahanol

Er bod llawer o blant yn Lloegr sy'n chwilio am deulu i'w mabwysiadu, mae llawer o blant o wledydd tramor hefyd yn chwilio am gartref, a mabwysiadu rhwng gwledydd yn aml yw'r unig gyfle sydd ganddynt o gael perthyn i deulu parhaol.

Pwy all wneud cais a phryd?

Mae'r llywodraeth yn annog mabwysiadu rhwng gwledydd dan yr amgylchiadau canlynol:

  • pan na ellir gofalu am y plentyn mewn ffordd briodol yn ei wlad ei hun
  • os mai mabwysiadu fyddai'r dewis gorau er budd y plentyn ac mewn perthynas â hawliau sylfaenol plant fel y nodir dan gyfraith ryngwladol
  • pan asesir bod y sawl sy'n mabwysiadu yn gymwys ac yn addas i fabwysiadu o wlad dramor gan asiantaeth fabwysiadu

Os hoffech fabwysiadu plentyn o wlad dramor dylech droi yn gyntaf at eich cyngor lleol neu at asiantaeth fabwysiadu wirfoddol sydd wedi'i chofrestru i weithio ym maes mabwysiadu rhwng gwledydd. Ceir manylion cyswllt awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol sydd wedi'u cofrestru i weithio ym maes mabwysiadu rhwng gwledydd ar wefan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU