Mae mabwysiadu'n fodd o gynnig teulu newydd i blentyn pan nad yw'n bosib iddyn nhw fyw gyda'u teulu eu hunain. Mae'n rhoi cyfle arall i blentyn ddechrau eto; i lawer o blant mae'n bosib mai mabwysiadu fydd eu hunig siawns o brofi bywyd teulu.
I fod yn addas ar gyfer mabwysiadu, rhaid i'r plentyn fod yn iau na 18 mlwydd oed ac mewn sefyllfa lle nad yw dychwelyd at ei rieni yn ddewis posibl. Os yw'r plentyn yn briod, neu wedi bod yn briod, ni ellir ei fabwysiadu.
Mae Gorchymyn Mabwysiadu'n torri pob cysylltiad cyfreithiol â'r teulu gwaed ac yn trosglwyddo hawliau a chyfrifoldebau rhieni i'r teulu newydd sy'n mabwysiadu. O hyn ymlaen, nid oes gan y rhieni gwaed unrhyw hawliau cyfreithiol dros y plentyn ac ni allant eu hawlio'n ôl. Mae'r plentyn yn dod yn aelod llawn o'ch teulu; caiff ddefnyddio'ch cyfenw a derbyn yr un hawliau a breintiau â phe bai wedi'i eni'n blentyn naturiol i chi, gan gynnwys hawliau etifeddu.
Mae magu plentyn yn gallu bod yn hwyl ac yn foddhad mawr, heb sôn am fod yn waith caled ac yn gyfrifoldeb aruthrol. Mae hyn yn arbennig o wir pan fyddwch yn dewis magu plentyn nas ganed i chi.
Mae croeso i chi wneud cais os ydych yn 21 oed neu'n hŷn ac y gallwch ddarparu cartref parhaol, sefydlog a llawn gofal. Does dim gwahaniaeth a ydych yn briod neu'n sengl, yn gweithio neu'n chwilio am waith, ac ni wahaniaethir ar sail hil, crefydd na rhywioldeb. Nid oes uchafswm oedran, ac nid oes gwahaniaeth os oes gennych anabledd. O fis Ionawr 2006, caiff cyplau di-briod yng Nghymru a Lloegr wneud cais i fabwysiadu ar y cyd.
Y cwestiwn tyngedfennol y bydd asiantaeth fabwysiadu yn gofyn fydd: a allwch chi roi cartref sefydlog i blentyn tan ei fod yn tyfu'n oedolyn a hyd yn oed wedi hynny? Mae pob math o bobl wedi mabwysiadu'n llwyddiannus ac yn dal i wneud hynny.
Bydd y Ddeddf newydd, a ddaw i rym ar 30 Rhagfyr 2005, yn diweddaru'r gyfraith ar fabwysiadu ac yn rhoi anghenion y plentyn cyn dim byd arall. Dylai'r newidiadau i'r ddeddf wella'r gwasanaeth mabwysiadu a helpu mwy o bobl i ystyried gwneud hynny.
Mae'r Ddeddf hefyd yn cyflwyno gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig newydd i roi cartref i blant nad ydynt yn gallu dychwelyd at eu teuluoedd gwaed a phan nad mabwysiadu yw'r dewis gorau iddynt ychwaith.
Mae'r taflenni isod yn egluro'r hyn y bydd y Ddeddf yn ei olygu i rieni sy'n mabwysiadu, gan gynnwys y rheiny sydd wrthi'n mabwysiadu plentyn ar hyn o bryd, a'r dewis newydd o Warcheidiaeth Arbennig.