Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gorchmynion gofal

Gorchymyn llys sy'n rhoi plentyn dan ofal yr awdurdod lleol yw gorchymyn gofal. Bydd yr awdurdod lleol wedyn yn rhannu cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn gyda'r rhieni, ac yn gwneud y rhan fwyaf o'r penderfyniadau pwysig ynghylch magwraeth y plentyn, megis ym mhle y maent yn byw a sut yr addysgir nhw.

Pam y gwneir gorchmynion gofal

Cyn gwneud gorchymyn gofal, rhaid i'r llys fod yn sicr o'r canlynol:

  • bod y plentyn yn dioddef, neu’n debygol o ddioddef, niwed sylweddol
  • mai rhieni'r plentyn sy'n achosi'r niwed
  • y byddai diffyg gofal dros y plentyn gan y rhieni yn y dyfodol yn peri niwed i'r plentyn
  • bod y plentyn yn debygol o ddioddef niwed oherwydd eu bod y tu hwnt i reolaeth eu rhieni

Pan wneir gorchymyn gofal, mae'n gyfrifoldeb ar yr awdurdod lleol i ofalu am y plentyn, ac i roi llety a gofal iddo. Yr awdurdod sy'n gyfrifol am ddiwallu holl anghenion y plentyn tra bo'r gorchymyn gofal mewn grym.

Dim ond i blant o dan 17 oed (neu 16 os yw'r plentyn wedi priodi) y gellir gwneud gorchymyn gofal. Daw'r gorchymyn gofal i ben os caiff y plentyn ei fabwysiadu, ac ni all barhau heibio'i benblwydd yn 18 oed.

Addysgu plant sydd mewn gofal

Pan fo plentyn yn dod o dan ofal yr awdurdod lleol (un ai oherwydd gorchymyn gofal neu eu bod yn cael eu derbyn o wirfodd), mae gan yr awdurdod lleol sy'n edrych ar eu hôl ddyletswydd i sicrhau eu bod yn cael yr addysg gorau posib.

Rhaid i bob plentyn sy'n derbyn gofal gael cynllun gofal cyffredinol. Dylai'r cynllun hwn gynnwys beth sy'n cael ei wneud i sicrhau eu bod yn cael addysg priodol. Yn y mwyafrif helaeth o achosion, gwneir penderfyniadau ynghylch lles plentyn unigol gan weithiwr cymdeithasol a rhiant maeth y plentyn (neu weithiwr gofal preswyl). Gan ddibynnu ar amgylchiadau penodol, gallai rhieni gwaed y plentyn gael eu cynnwys yn y penderfyniadau hynny.

Mae angen i'r gweithiwr cymdeithasol, ar y cyd â'r gofalwr maeth neu'r gweithiwr gofal preswyl, wneud penderfyniadau ynghylch beth sy'n rhaid ei wneud er mwyn helpu'r plentyn i gyflawni ei botensial/photensial llawn. Mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • llunio cynllun addysg personol i'r plentyn, a sicrhau eu bod yn cael digon o gefnogaeth yn yr ysgol
  • gwneud yn siŵr bod y plentyn yn mynychu'r ysgol yn ddyddiol
  • dewis ysgol a gwneud cais am le ynddi pan fydd angen
  • gwneud yn siŵr bod cysylltiadau da gydag athro penodedig yn ysgol y plentyn
  • bod yn rhan o unrhyw asesiad ar gyfer anghenion addysgol arbennig
  • gwneud yn siŵr bod y gofalwyr maeth yn mynychu nosweithiau rhieni ac unrhyw ddigwyddiadau eraill yn yr ysgol y dylai rhieni eu mynychu

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Pwy sy’n gwneud beth?

Llwythwch y taflenni canlynol oddi ar y we er mwyn cael mwy o wybodaeth ynghylch pwy sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau am addysg plant sy'n derbyn gofal, a sut y gallwch chi eu cefnogi.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU