Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ynghylch cynhaliaeth plant

Mae cynhaliaeth plant yn gymorth ariannol tuag at gostau byw plentyn o ddydd i ddydd. Gall rhieni sydd wedi gwahanu wneud trefniadau cynhaliaeth plant rhwng ei gilydd drwy wneud cytundeb teuluol. Gallant hefyd fynd drwy’r CSA neu’r llysoedd. Cewch fwy o wybodaeth am gynhaliaeth plant a sut i wneud trefniadau sy’n gweithio i chi.

Beth ydy cynhaliaeth plant a pham ei bod yn bwysig

Fel arfer, mae cynhaliaeth plant yn gymorth ariannol sy’n rheolaidd a dibynadwy ac sy’n helpu tuag at gostau byw plentyn o ddydd i ddydd.

Bydd y rhiant sydd ddim yn brif ofalwr i’r plentyn o ddydd i ddydd yn talu cynhaliaeth plant i’r rhiant neu berson sy’n gofalu am y plentyn o ddydd i ddydd. Gall y person gyda gofal fod yn nain neu daid, neu’n warcheidwaid.

Mae cynhaliaeth plant yn gallu golygu mwy nag arian yn unig. Mae’n ymwneud â sicrhau bod rhieni yn cymryd cyfrifoldeb am eu plant, hyd yn oed os ydynt yn byw ar wahân iddynt. Gall hyn wneud gwahaniaeth mawr i les y plentyn, gan y gall helpu i greu amgylchedd fwy sefydlog ar eu cyfer.

Mae plant sydd mewn amgylchedd sefydlog yn fwy tebygol o:

  • llwyddo yn yr ysgol
  • cadw allan o drwbl
  • cael mwy o hunan-barch

Sut gallwch drefnu cynhaliaeth plant

Gall bob rhiant sydd wedi gwahanu drefnu cynhaliaeth plant eu hunain os bydd y ddau yn cytuno. Dyma a elwir yn gytundeb teuluol.

Pan nad ydy hyn yn bosib, gall rhieni wneud cais drwy’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) neu’r llysoedd.

Cytundebau teuluol

Os ydych chi a’r rhiant arall eisiau gwneud hynny, gallwch wneud cytundeb teuluol. Dyma pryd rydych yn trefnu cynhaliaeth plant rhwng eich gilydd. Yn aml, dyma’r ffordd hwylusaf a chyflymaf i drefnu cynhaliaeth plant gan nad oes llawer o waith papur.

Mae cytundeb teuluol yn golygu y gallwch:

  • cytuno rhwng eich gilydd faint ddylai’r taliadau cynhaliaeth plant fod, a pha bryd dylai’r taliadau gael eu gwneud
  • cytuno i newid eich cytundeb os bydd amgylchiadau’r naill riant yn newid
  • talu am neu gael pethau fel dillad ar gyfer eich plant yn lle arian, os bydd y ddau ohonoch yn cytuno

Fel arfer, nid yw’r math yma o drefniant yn un y gellir ei orfodi’n gyfreithiol fel arfer. Mae hyn yn golygu bod neb yn gallu casglu unrhyw daliadau sydd ar goll neu orfodi cytundeb sydd wedi chwalu. Fodd bynnag, os mae’r cytundeb yn chwalu, gall y ddau riant gofyn i’r Asiantaeth Cynnal Plant neu’r llysoedd i drefnu cynhaliaeth plant ar unrhyw adeg.

Mae yna sawl offer ar gael i chi i helpu sefydlu cytundeb rhwng rhieni, fel:

  • cyfrifydd cynhaliaeth plant sy’n helpu i chi cytuno â swm
  • canllaw trafod sy’n helpu i chi trafod pethau gyda’r rhiant arall
  • ffurflen cytundeb rhwng rhieni gallwch ddefnyddio i gadw cofnod o beth ydych wedi cytuno 

Gallwch hefyd ofyn i gyflafareddwr proffesiynol eich helpu.

Dilynwch y cyswllt canlynol i ddefnyddio’r cyfrifydd cynhaliaeth plant. 

Dilynwch y cyswllt canlynol i weld y canllaw trafod ar y wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant ac am fwy o wybodaeth am gytundebau teuluol.

Gallwch lawr-lwytho’r ffurflen cytundeb teuluol drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol.

Achosion gyda’r CSA

Weithiau, ni all rhieni drefnu cynhaliaeth plant rhwng ei gilydd, felly nid yw cytundeb teuluol yn bosib. Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n addas, er enghraifft os bydd perygl o drais neu gamdriniaeth. Mewn achosion o’r fath, bydd y CSA yn gweithio swm o gynhaliaeth plant allan. Hefyd, gallant drefnu i gasglu cynhaliaeth plant gan un rhiant ac wedyn trosglwyddo’r arian i’r rhiant arall.

Am fwy o wybodaeth am y CSA, defnyddiwch y cyswllt canlynol.

Gorchmynion Llys

Gall rhieni hefyd drefnu cynhaliaeth plant a gorfodi taliadau drwy’r llysoedd. Mae hyn yn cael ei wneud drwy ddefnyddio Gorchymyn Cydsynio yng Nghymru a Lloegr, a ‘Minute of Agreement’ yn Yr Alban.

Fel arfer, bydd cynhaliaeth plant yn cael ei drefnu fel hyn os ydy’r rhieni yn mynd i’r llys yn barod am reswm arall – er enghraifft, os ydynt yn cael ysgariad.

Gall defnyddio’r llysoedd i drefnu cynhaliaeth plant fod yn ddrud. Ni fydd Cymorth Cyfreithiol yn talu’r costau os ydych yn mynd i’r llys i drefnu cynhaliaeth plant yn unig.

Cewch fwy o wybodaeth am orchmynion llys ar gyfer cynhaliaeth plant ar y wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant.

Defnyddiwch y cyswllt canlynol am fwy o wybodaeth am fathau eraill o orchmynion llys sydd ar gael am drefniadau eraill ar gyfer eich plant.

Cynhaliaeth plant a budd-daliadau

Ers mis Hydref 2008, mae bob rhiant wedi gallu dewis sut i drefnu cynhaliaeth plant, hyd yn oed os ydynt yn cael budd-daliadau.

Hefyd, ers mis Ebrill 2010 gall rhiant â gofal gadw’r holl gynhaliaeth plant sy’n cael ei dalu iddynt ac ni ddylai hyn bellach effeithio ar eu budd-daliadau yn ymwneud ag incwm.

Lle i gael mwy o help gyda chynhaliaeth plant

Mae’r gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn rhoi gwybodaeth i’r ddau riant am:

  • cytundebau teuluol
  • opsiynau eraill ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant
  • materion eraill sy’n affeithio ar deuluoedd sydd wedi gwahanu

Mae’r gwasanaeth yma am ddim.

Defnyddiwch y cyswllt canlynol i gael mwy o wybodaeth am gynhaliaeth plant ar y wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Trefniadau teuluol

Os ydych chi a’r rhiant arall eisiau trefnu cynhaliaeth plant ymysg eich hunain, gallwch wneud trefniant teuluol

Allweddumynediad llywodraeth y DU