O gael blas ar gerddoriaeth i ganolbwyntio ar gelf, o feistroli karate i astudio'n ddistaw - gall plant elwa o ofal plant a chlybiau y tu allan i oriau'r ysgol mewn sawl ffordd.
Mae'n ffordd wych i blant o bob oed feithrin sgiliau a thalentau newydd drwy ddysgu a thrwy chwarae gyda phlant eraill mewn amgylchedd diogel, a hwnnw wedi'i drefnu a'i strwythuro'n dda. A thrwy gael mwy o amser rhydd, mae'n rhoi llawer o opsiynau i chithau hefyd – p'un ai a ydych yn gweithio, yn ceisio mynd yn ôl i weithio, yn astudio neu'n ceisio gwneud eich bywyd ychydig yn llai prysur.
I helpu i wneud eich bywyd yn haws, mae llawer o ddewisiadau gofal plant fforddiadwy ar gael. Ceir ystod eang o grwpiau cyn-ysgol, meithrinfeydd, clybiau amser brecwast, clybiau ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant a chynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau i chi ddewis o'u plith. Beth am siarad â'ch ysgol leol am y clybiau a gynigir ganddynt neu holi eich Canolfan Blant Cychwyn Cadarn leol?
A chofiwch, pan ddefnyddiwch ofal plant sydd wedi'i gofrestru gydag Ofsted, byddwch yn gwybod ei fod wedi bodloni safonau clir sydd wedi'u cynllunio i ddarparu amgylchedd diogel i'ch plant.
Gallech ganfod nad yw gofal plant ffurfiol mor ddrud ag yr ydych yn ei feddwl. Gall nifer o deuluoedd gael cymorth gyda'r gost drwy elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith. Os ydych chi'n defnyddio gofal plant wedi'i gofrestru neu ei gymeradwyo, gallech gael hyd at 80 y cant o'ch costau gofal plant yn ôl, yn dibynnu ar eich incwm. Ac os ydych chi'n byw yn Llundain, ceir cymorth ychwanegol drwy'r Rhaglen Gofal Plant Fforddiadwy.
Mae hefyd yn werth gwybod bod gan blant tair a phedair oed hawl i 12 awr a hanner o addysg gynnar am ddim bob wythnos – ar gael gan feithrinfeydd, grwpiau chwarae, grwpiau cyn-ysgol neu warchodwyr plant – am 38 wythnos y flwyddyn. Ac os ydych yn chwilio am ofal plant hyblyg am fwy na 12 awr a hanner yr wythnos, ceir llawer o ddewisiadau fforddiadwy.
I gael gwybod mwy am ddarparwyr gofal plant yn eich ardal chi, cliciwch ar y ddolen isod i fynd i'r gwasanaeth chwilio am ofal plant, ac ysgrifennwch eich cod post.
Os hoffech siarad â rhywun am ofal plant fforddiadwy yn eich ardal chi a beth y gall ei gynnig i chi a'ch plentyn, ffoniwch 0800 2346 346 i gael eich trosglwyddo i'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.
Neu, i gael manylion cyswllt eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod.