Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Prosiect Fforddiadwyedd Gofal Plant yn Llundain

Beth yw'r Prosiect Fforddiadwyedd Gofal Plant?

Mae'r Prosiect yn sicrhau bod gofal plant rhatach ar gael i rieni yn Llundain ar gyfer plant dan bump oed. Felly, tra bo'ch plant yn derbyn gofal mewn amgylchedd diogel, ysgogol, gallwch chi ryddhau eich amser i ganolbwyntio ar eich gyrfa neu ddychwelyd i weithio.

Mathau o ofal plant gyda'r Prosiect

Mae llawer o wahanol fathau o ofal plant ar gael, felly rydych chi'n siŵr o ddod o hyd i un sy'n addas i chi. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • lleoedd gofal plant hyblyg ar amserau sy'n gweddu i'ch anghenion chi am bris fesul awr fforddiadwy
  • lleoedd gofal dydd llawn yn costio dim mwy na £175 yr wythnos
  • os yw eich plentyn rhwng tair a phedair mlwydd oed, gallai cost gofal dydd fod hyd yn oed yn is


Mae holl ddarparwyr gofal plant y Prosiect wedi'u cofrestru, felly byddwch yn gwybod bod eich plant yn derbyn gofal mewn amgylchedd diogel.

Pwy sy’n gymwys?

I fod yn gymwys i gael lle wedi'i ariannu gyda'r Prosiect, mae'n ofynnol:

  • bod gennych o leiaf un plentyn sy'n bump oed neu'n iau
  • eich bod yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Plant ar gyfradd uwch na'r elfen deulu (mwy na £545 y flwyddyn)
  • eich bod yn gallu cyflwyno tystiolaeth o hyn i ddarparwr gofal plant drwy ddangos eich llythyr dyfarniad credyd treth blynyddol gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi


Peidiwch ag anghofio bod hawl gan bob plentyn tair a phedair oed i dderbyn lleoedd am ddim mewn addysg, beth bynnag fo'ch amgylchiadau. I gael gwybod a ydych chi'n gymwys ar gyfer y Prosiect, neu i gael gwybodaeth am y lleoedd addysg cynnar am ddim i blant tair a phedair oed, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth Plant Llundain lleol ar 0800 2 346 346.

Cymorth ychwanegol gyda Chredydau Treth Gwaith

Os ydych chi eisoes yn cael credydau treth, neu os ydych yn gymwys i'w cael, efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol tuag at eich costau gofal plant drwy elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith.

I ganfod a ydych yn gymwys i dderbyn credydau treth, cysylltwch â'r llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu defnyddiwch y ddolen isod i fynd i'r dudalen Credyd Treth Gwaith.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU