Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ysgolion estynedig

Mae ysgolion estynedig yn darparu amrywiaeth o weithgareddau y tu allan i oriau ysgol ar gyfer plant cynradd ac uwchradd, eu teuluoedd a'r gymuned leol. Gall y rhain gynnwys gofal plant, gweithgareddau a chefnogaeth ar gyfer dysgu.

Beth yw ysgol estynedig?

Mae gwasanaethau ysgolion estynedig wedi'u cynllunio i'ch helpu i gydbwyso eich gwaith a'ch ymrwymiadau teuluol, i gefnogi eich plant gyda'u hastudiaethau ac i roi amrywiaeth ehangach o brofiadau a diddordebau iddynt.

Maent hefyd yn eich galluogi chi a'r gymuned ehangach i ddefnyddio cyfleusterau'r ysgol. Er enghraifft, gallech ddysgu mwy am dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) neu wella eich sgiliau ysgrifennu a mathemateg.

Mae'n bosib y bydd rhai ysgolion hefyd yn cynnig gwasanaethau i'r gymuned leol, megis gwybodaeth am fwyta'n iach a maeth neu gyngor ar reoli arian - gan gynnwys cwnsela ynghylch dyledion a pha les a budd-daliadau sydd ar gael.

A yw pob ysgol yn darparu gwasanaethau estynedig?

Erbyn 2010, bydd pobl ysgol yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau - bydd rhai ohonynt am ddim, tra codir tâl am rai eraill, megis gofal plant.

Pa wasanaethau ychwanegol a ddarperir?

Mae'r gwasanaethau y gallwch fanteisio arnynt fel a ganlyn:

  • gofal plant
  • gweithgareddau ar gyfer eich plentyn
  • cefnogaeth i rieni a theuluoedd
  • mynediad rhwydd at gymorth arbenigol
  • mynediad i'r gymuned

Gofal plant

Mae mwy a mwy o ysgolion yn darparu gofal plant o amgylch y prif ddiwrnod ysgol ac yn ystod y gwyliau. Gall hyn eich helpu i weithio neu i gael hyfforddiant a gall hefyd roi'r cyfle i'ch plentyn gael lle diddorol i fynd.

Mae llawer o wahanol fathau o ofal ar gael, megis clybiau brecwast a chlybiau ar ôl yr ysgol, yn ogystal â chlybiau gwarchodwyr plant a chlybiau a gaiff eu rhedeg y tu allan i oriau ysgol neu feithrinfeydd dydd lleol.

Ysgolion cynradd

Mae'n ofynnol i ysgolion sy'n gwbl estynedig ddarparu mynediad i ofal plant ac amrywiaeth o weithgareddau rhwng 8.00 am a 6.00 pm, bum niwrnod yr wythnos, 48 wythnos y flwyddyn.

Ysgolion uwchradd

Darperir gweithgareddau rheolaidd yn aml gan ysgolion uwchradd cyn ac ar ôl y diwrnod ysgol rhwng 8.00 am a 6.00 pm. Holwch eich ysgol leol i weld beth sydd ar gael.

Dylid cynnig gofal plant a gweithgareddau fel ymateb i'r galw gan rieni a disgyblion (ond os nad oes galw am ofal plant ar ôl 5.30 pm, er enghraifft, nid oes angen ei gynnig).

Sicrhau ansawdd gofal plant

Caiff yr holl ofal plant a ddarperir drwy ysgolion ei arolygu gan Ofsted, sy'n sicrhau bod ysgolion yn bodloni'r safonau ansawdd penodol ac yn cael eu hannog i wella safon y gofal a'r addysg y mae'n eu darparu.

A oes cymorth ariannol ar gael i chi

Gallwch gael help gyda chostau gofal plant a ddarperir drwy ysgolion estynedig drwy elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith. Dilynwch y ddolen isod i weld a ydych chi'n gymwys.

Gweithgareddau

Mae ysgolion estynedig yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau ar gyfer eich plentyn, gan gynnwys:

  • cymorth i astudio
  • chwarae a hamdden
  • dosbarthiadau ffitrwydd
  • drama
  • chwaraeon
  • cerddoriaeth
  • celf, crefftau a chlybiau o ddiddordeb arbennig eraill
  • gweithgareddau gwirfoddoli a busnes a mentergarwch

Mae gweithgareddau cymorth i astudio wedi'u teilwra fel y gall plant sy'n cael eu gadael ar ôl gan eu cyfoedion gael cymorth ychwanegol i'w helpu i ddal i fyny. Bydd y rheini sy'n gwneud yn arbennig o dda yn cael cynnig gwaith mwy heriol i ymestyn eu hunain ymhellach.

Bydd plant yn gallu dilyn diddordebau arbennig neu roi cynnig ar bethau newydd - unrhyw beth yn amrywio o glybiau gwyddbwyll i wersi cleddyfaeth a dosbarthiadau iaith ychwanegol amser brecwast.

Caiff y gwasanaethau hyn eu darparu'n bennaf o amgylch y diwrnod ysgol craidd naill ai yn yr ysgol neu mewn ysgol neu gyfleuster cyfagos o dan oruchwyliaeth staff pwrpasol.

Cefnogaeth i rieni a theuluoedd

Caiff pob ysgol eu hannog i ddarparu mynediad i chi i wahanol fathau o gefnogaeth. Mae nifer o ysgolion bellach yn cynnig:

  • rhaglenni sgiliau magu plant
  • sesiynau dysgu teuluoedd
  • cyrsiau rheoli ymddygiad plant
  • sesiynau gwybodaeth ar gyfer rhieni pan fydd eu plant yn dechrau mewn ysgol gynradd a phan fyddant yn symud i ysgol uwchradd
  • gwybodaeth am ffynonellau o gyngor a chefnogaeth cenedlaethol a lleol

Mynediad rhwydd at wasanaethau arbenigol

Mae llawer o ysgolion bellach yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau iechyd, tai a gwasanaethau cymdeithasol i gynnig cymorth i blant a phobl ifanc pan fo'i angen arnynt. Gall hyn gynnwys y rheini sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol ac anghenion iechyd. Drwy gysylltiadau ag asiantaethau lleol a mudiadau gwirfoddol, gall ysgolion nodi pwy y mae angen help arnynt a threfnu hynny cyn gynted â phosibl.

Mae'r cysylltiadau agos hynny rhwng mudiadau'n golygu y bydd plant y mae angen cefnogaeth barhaus arnynt drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol yn ei gael.

Mynediad i'r gymuned

Mae llawer o ysgolion yn darparu cyfleusterau i'w defnyddio gan y gymuned. Gall hyn gynnwys:

  • neuaddau chwaraeon
  • campfeydd a stiwdios ffitrwydd
  • ystafelloedd cyfrifiadur
  • cyfleusterau celfyddydau a cherddoriaeth

Maent hefyd yn cynnig lleoedd fel neuaddau ysgolion ac ystafelloedd dosbarth ar gyfer addysg bellach, dosbarthiadau galwedigaethol a rhaglenni dysgu i oedolion.

Ble cewch fwy o wybodaeth?

I gael gwybod beth sydd ar gael, cysylltwch â'ch ysgol leol neu'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol ar 0800 2 346 346. Gallwch hefyd ddod o hyd i ysgolion sy'n darparu gwasanaethau estynedig yn eich ardal drwy ddefnyddio'r teclyn chwilio 'Dod o hyd i ysgolion, gofal plant a meithrinfeydd'.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Cymorth gyda materion ariannol i’ch plant

Gyda theulu sy’n tyfu, mae’n bosib y bydd angen ychydig o gymorth ariannol arnoch.  Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i beth gallwch fod yn gymwys iddo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU