Os ydych chi'n mynd yn ôl i'r gwaith a bod gennych blant, fe allwch gael help ariannol ac ymarferol gyda gofal plant. Mae sawl gwahanol fath o help ar gael i wneud bywyd yn haws - o gredydau treth i drefniadau gweithio hyblyg.
Mae gan bob plentyn rhwng tair a phedair oed yr hawl i gael deuddeg awr a hanner o addysg gynnar yr wythnos, am 38 wythnos y flwyddyn, gyda 'darparwr cofrestredig' fel ysgol, meithrinfa neu grŵp chwarae, beth bynnag y bo'u hincwm neu amgylchiadau.
Bydd rhai cyflogwyr mawr yn darparu addysg blynyddoedd cynnar cofrestredig yn y gweithle. Gallwch hefyd ddefnyddio gofalwr plant cofrestredig os ydyn nhw'n rhan o rwydwaith gofal plant cymeradwy.
Lwfans ar sail incwm ar gyfer rhieni a gofalwyr plant neu bobl ifanc sy'n dal mewn addysg amser llawn ydy'r Credyd Treth Plant. Bydd naw o bob deg teulu sydd â phlant yn gymwys i gael Credyd Treth Plant.
Credyd Treth Gwaith
Os ydych chi'n gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos a'ch bod ar incwm isel, mae'n bosibl y gallwch chi gael Credyd Treth Gwaith hefyd.
Mae'r Credyd Treth Gwaith yn cynnwys elfen benodol i helpu gyda chost gofal plant cofrestredig neu gymeradwy i rieni sy'n gweithio. Gall yr elfen gofal plant helpu gyda hyd at 80 y cant o'ch costau gofal plant cymwys.
Ond dim ond hyn a hyn o'r costau wythnosol y cewch chi eu hawlio. Os byddwch chi'n talu am ofal plant ar gyfer:
Os ydych chi'n rhiant sy'n gweithio, bydd gennych yr hawl i fod yn absennol o'r gwaith am hyd at 13 wythnos ar gyfer pob plentyn nes eu bod yn bump oed (fe gewch fwy na hyn os oes gennych blentyn anabl). Does dim rhaid i'ch cyflogwr dalu ichi am yr amser hwn, ond mae'n bosib y byddan nhw'n dewis gwneud hynny fel rhan o'ch pecyn cyflogi.
Mae gweithio hyblyg yn golygu y cewch chi ofyn i'ch cyflogwr am batrwm gweithio newydd i'ch helpu i ofalu am eich plentyn. Os oes gennych blentyn dan chwech oed neu blentyn anabl dan 18 oed, mae gennych chi'r hawl i ofyn am batrwm gwaith hyblyg. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr ystyried eich cais yn ddifrifol.
Er mwyn gallu gofyn am gael patrwm gweithio hyblyg, rhaid i chi:
Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais wrth wneud cais am batrwm gweithio hyblyg. Dim ond un cais y flwyddyn gewch chi ei wneud.
Taliad unswm di-dreth yw Grant Swydd ac mae'n bosib y cewch chi hwn wrth ddechrau gweithio'n llawn amser (o leiaf 16 awr yr wythnos). Fe gewch chi hwn os ydych chi (a'ch partner os oes gennych un) yn 25 oed neu'n hŷn a'ch bod wedi bod yn cael un neu fwy o'r budd-daliadau hyn am 26 wythnos o leiaf cyn i chi ddechrau gweithio:
I rieni unigol a chyplau sydd â phlant, swm y grant yw £250. (Os ydych chi neu'ch partner dan 25 oed, mae'n bosib y bydd rheolau gwahanol yn berthnasol.)
Gall unrhyw un sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm ac sy'n cael cynhaliaeth i blentyn neu blant, fod yn gymwys i gael y Bonws Cynnal Plant. Mae'r bonws yn adeiladu fesul £5 yr wythnos hyd at uchafswm o £1,000 ac fe'i telir i chi fel un swm pan fyddwch chi'n dod o hyd i waith, neu pan fydd eich oriau gweithio'n cynyddu at lefel lle na fyddwch chi'n cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith rhagor.
Fodd bynnag, nid yw'r Bonws Cynhaliaeth Plant ar gael dan y cynllun cynnal plant newydd, a gyflwynwyd ar gyfer achosion newydd o 3 Mawrth 2003 ymlaen.
Yn hytrach, bydd unrhyw un sy'n gofalu am blentyn ac sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn cael cadw hyd at £10 yr wythnos o unrhyw gynhaliaeth a delir ar gyfer eu plant. Gelwir hyn yn Bremiwm Cynhaliaeth Plant.
Os ydych chi'n dod o dan yr hen gynllun, byddwch chi'n dal i adeiladu'r bonws nes i chi gael eich trosglwyddo i'r cynllun newydd.
Mae llawer o gyflogwyr bellach yn cynnig help i weithwyr dalu am eu gofal plant, gall hyn gynnwys:
Os bydd eich cyflogwr yn cynnig unrhyw un o'r uchod i chi, bydd yn rhaid i chi dalu treth a chyfraniadau yswiriant gwladol ar ba bynnag gymorth a roddir. Mae mathau eraill o gymorth gofal plant y gall eich cyflogwr ei ddarparu fodd bynnag, heb i chi orfod talu treth neu gyfraniadau yswiriant gwladol. Sef:
I gael rhagor o wybodaeth am y mathau gwahanol o gymorth y gallech ei gael gan eich cyflogwr, llwythwch y daflen isod.