Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gorchmynion Rhianta, Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a gorchmynion eraill sy'n ymwneud ag ymddygiad

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mesurau wedi cael eu cyflwyno i wneud yn siŵr y gellir dal rhieni a phlant yn gyfrifol am ymddygiad gwael plentyn.

Gorchmynion Rhianta

Gorchymyn llys yw Gorchymyn Rhianta, sydd fel arfer yn golygu bod yn rhaid i rieni neu ofalwr fynychu dosbarthiadau rhianta (gelwir y rhain weithiau'n rhaglenni/ymyriadau rhianta). Mae'n bosib y gorchmynnir rhieni hefyd i fodloni amodau eraill, fel gwneud yn siŵr bod eu plentyn yn aros gartref ar amseroedd penodol, neu fynychu cyfarfodydd gydag athrawon eu plentyn. Gall y rhain bara hyd at dri mis, a'u pwrpas yw helpu i wella ymddygiad y plentyn.

Pryd y gellir eu defnyddio?

Gellir rhoi Gorchymyn Rhianta pan fydd disgybl yn cael ei wahardd o'r ysgol am ymddygiad difrifol wael, un ai yn barhaol neu am yr ail dro mewn 12 mis. Gellir hefyd gwneud cais amdanynt o ganlyniad i driwantiaeth cyson, neu pan fydd plentyn neu berson ifanc yn arddangos (neu mewn perygl o arddangos) ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol, a phan fydd magwraeth y plentyn yn cael ei ystyried yn ffactor yn ei ymddygiad.

Pam y cawsant eu cyflwyno?

Mae rhaglenni magu plant yn helpu rhieni i ennill y sgiliau a'r hyder sydd angen arnynt, ac maent wedi helpu i leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ymysg pobl ifanc. Mae dros 90 y cant y rhieni sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglen magu plant yn dweud y byddent yn argymell y rhaglen i rieni eraill sydd yn yr un sefyllfa.
I gael rhagor o wybodaeth am raglenni magu plant, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.

Gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBOs)

Gellir defnyddio Gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBOs) i gosbi unrhyw un dros 10 oed am harasio person neu bobl nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â nhw, neu beri dychryn neu ofid iddynt.
Mae'r ASBO, sy'n para am isafswm o ddwy flynedd, yn gwahardd y troseddwr rhag mynd i leoedd penodol – e.e. canol trefi, mannau cyhoeddus – er mwyn amddiffyn aelodau'r cyhoedd rhag eu hymddygiad. Mae'n rhaid iddynt hefyd ymddwyn yn dda lle bynnag y maent ac mae'n bosib y gofynnir iddynt beidio â chymdeithasu â phobl benodol.
Gellir adolygu hyd y cyfnod dwy flynedd os bydd y troseddwr yn dangos arwyddion gwirioneddol bod ei ymddygiad yn gwella. Os bydd y troseddwr yn torri amodau'r gorchymyn, gall gael dirwy neu hyd yn oed wynebu hyd at bum mlynedd yn y carchar.

Sut y gallwch chi wneud cais i gyflwyno ASBO

Dyma'r gwahanol ffyrdd o wneud cais am ASBO:

  • awdurdodau lleol: cynghorau dosbarth, bwrdeistrefi Llundain, Corfforaeth Llundain, Ynys Wyth, Ynysoedd Sili, cynghorau sir neu fwrdeistrefi sirol Cymru a chynghorau sir Lloegr
  • heddluoedd a Heddlu Trafnidiaeth Prydain
  • Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL) ac Ymddiriedolaethau Gweithredu Tai (HAT)

Mae'n rhaid i'r ceisiadau hyn fynd drwy lys ynadon. Gellir rhoi ASBO hefyd wrth ddedfrydu rhywun am gyflawni trosedd. Fodd bynnag, gorchymyn sifil yw ASBO sy'n golygu, os nad yw'r amodau'r ASBO yn cael eu torri, na roddir cofnod troseddol i'r troseddwr.

Gorchymyn cymorth unigol (GCU)

Rhaglen gefnogi yw GCU, a'i nod yw helpu pobl ifanc rhwng 10 ac 17 oed i newid eu hymddygiad gwrthgymdeithasol. Eu pwrpas yw mynd i'r afael â'r hyn sydd wrth wraidd ymddygiad gwrthgymdeithasol pobl ifanc, drwy osod amodau cadarnhaol arnynt.

Fel arfer, fe'u rhoddir i bobl sydd eisoes ag ASBO, ac maent yn cynnwys cwnsela ar gyfer problemau megis cyffuriau a rheoli dicter.
Maent hefyd wedi'u cynllunio i gynnwys rhieni yn y broses o wella ymddygiad y person ifanc, ac fe ellir rhoi dirwy i rieni os torrir amodau'r GCU.

Allweddumynediad llywodraeth y DU