Er mwyn atal eich plentyn rhag mynd i drwbwl gyda'r gyfraith, mae'n bwysig deall y rhesymau pam mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn troseddu yn y lle cyntaf.
Gall plentyn droi at droseddu am nifer o resymau, ond dyma'r rhai mwyaf cyffredin:
Efallai mai'r peth pwysicaf i'w gofio yw mai rhieni pobl ifanc yw'r modelau rôl cyntaf a phwysicaf a gânt yn eu bywydau. Os yw rhieni plentyn yn rhoi esiampl dda o ran ymddygiad ac yn parchu pobl eraill, bydd y plentyn yn llawer mwy tebygol o wneud yr un peth.
Nid rhieni'n unig all roi esiampl dda. Caiff plant a phobl ifanc hefyd eu dylanwadu gan unrhyw un arall y byddant yn teimlo cysylltiad â hwy. Felly, gall pobl fel athrawon, aelodau eraill o'r teulu fel ewythrod, modrybedd neu neiniau a theidiau/mam-gu a thad-cu, a phobl adnabyddus yn y gymuned, hyd yn oed, gael effaith. Ceisiwch ddod o hyd i bobl fel hyn sydd â gwerthoedd moesol da ac sy'n dangos caredigrwydd a pharch tuag at bobl eraill, ac anogwch eich plentyn i dreulio amser gyda hwy ac i ymddwyn yn debyg iddynt.
Mae ymchwil wedi dangos bod y rhan fwyaf o droseddau a gyflawnir gan bobl ifanc yn digwydd rhwng 3.00pm a 6.00pm. Mae'n annhebygol y byddwch yn boblogaidd iawn os byddwch yn ceisio atal eich plentyn rhag cymdeithasu gyda'i ffrindiau ar ôl ysgol, ond os ydych chi'n meddwl bod eich plentyn yn cymryd rhan mewn troseddau, mae'n werth gwybod pryd y maent fwyaf tebygol o droseddu.
Mae help a chyngor ymarferol ar gael i rieni os yw eu plant mewn perygl o droseddu. Mae rhaglenni magu plant yn cynnig cyngor a chefnogaeth un-i-un, ac yn helpu rhieni i wella eu sgiliau o ran ymdrin ag ymddygiad sy'n achosi problemau. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu rhaglen magu plant, cysylltwch â'ch cyngor lleol.
Os yw eich plentyn mewn perygl o droseddu, efallai y bydd eich Tîm Troseddau Ieuenctid yn awgrymu i chi fynychu rhaglen magu plant. Os byddwch chi'n gwrthod, gallant eich gorfodi i fynychu drwy Orchymyn Magu Plant.
Os rhoir Gorchymyn Magu Plant i chi, gallech orfod mynychu sesiynau cwnsela neu raglen magu plant am hyd at dri mis. Hefyd, gallech orfod bodloni rhai neu bob un o'r amodau hyn:
Gall yr amodau hyn bara hyd at 12 mis. Gellir erlyn rhiant neu ofalwr am fethu â bodloni amodau Gorchymyn Magu Plant.
Gwirfoddolwr yw mentor, a'i rôl yw cymell a chefnogi person ifanc sydd mewn perygl o droseddu. Bydd mentoriaid yn meithrin perthynas ar sail ymddiriedaeth a chyfrinachedd gyda phobl ifanc dros gyfnod hir o amser. Anogir pobl ifanc hefyd i ystyried bod eu mentor yn unigolyn cyfartal â hwy. Dros amser, gall mentoriaid helpu pobl ifanc i gyrraedd targedau cymdeithasol neu addysgol y maent wedi'u pennu gyda'i gilydd, a lleihau'r perygl o droseddu.
I gael rhagor o wybodaeth am fentoriaid, cysylltwch â'ch cyngor lleol.