Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Os yw'ch plentyn yn cael ei arestio

Os caiff eich plentyn ei arestio am gyflawni trosedd ac os yw dan 17 mlwydd oed, bydd rhaid i'r heddlu ddweud wrthych mor fuan â phosib.

Eich hawliau

Os caiff eich plentyn ei arestio am gyflawni trosedd ac os yw dan 17 mlwydd oed, bydd yn rhaid i'r heddlu ddweud wrthych mor fuan â phosib. Ni ddylai'r heddlu gyfweld eich plentyn nes eich bod chi'n bresennol, oni fyddai oedi'n golygu bod risg o niwed i rywun yn y fan a'r lle neu risg o golli eiddo neu ddifrod difrifol i eiddo. Mewn achosion o'r fath, mae'n rhaid i'r heddlu sicrhau bod 'oedolyn priodol' annibynnol yn bresennol er mwyn gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael ei drin yn deg.

Gall pobl ifanc rhwng 13-19 oed (neu hyd at 25 i'r rheini sydd ag anhawster dysgu neu anabledd) gael cyngor, cymorth a gwybodaeth yn gyfrinachol gan Connexions ar 080 800 13219, neu ar wefan Connexions.

Mae gan eich plentyn yr un hawl i gyngor cyfreithiol ag oedolyn.

Achosion troseddol yn erbyn eich plentyn

Os yw eich plentyn dan 10 oed, ni ellir mynd ag ef/hi i'r llys a'i gyhuddo o gyflawni trosedd. Fodd bynnag, unwaith bydd yn 10 oed neu'n hŷn, caiff ei drin yn yr un modd ag unrhyw berson ifanc dan 18 oed, a bydd System Cyfiawnder yr Ifanc yn delio ag ef/hi.

Os bydd eich plentyn yn mynd i drwbwl, yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu'n cyflawni mân drosedd am y tro cyntaf, gellir delio ag ef/hi y tu allan i system y llysoedd gyda gorchymyn cyn ymddangosiad llys. Drwy'r gorchymyn hwn, caiff gerydd ffurfiol neu rybudd gan blismon. Caiff hyn ei gofnodi fel cofnod troseddol, ac mae'n bosib y bydd rhywun o'r Tîm Troseddau Ieuenctid yn cysylltu â chi i weld a oes angen cymorth neu gyngor ar eich plentyn.

Os bydd yr heddlu yn cyhuddo'ch plentyn, bydd yn cael ei roi ar fechnïaeth (yn cael caniatad i fynd adref) neu'n cael ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos mewn Llys Ieuenctid. Os bydd eich plentyn yn pledio'n euog neu'n cael ei ddyfarnu'n euog o gyflawni'r drosedd, bydd yn cael ei ddedfrydu gan y Llys Ieuenctid. Gyda throseddau mwy difrifol, bydd y Llys Ieuenctid yn cyfeirio'r achos at Lys y Goron.

Os bydd eich plentyn wedi ei gyhuddo ar y cyd ag oedolyn, delir â hwy mewn llys oedolion.

Cael cyngor cyfreithiol – llinell gymorth yn cynnig cyngor cyfreithiol am ddim

Os bydd eich plentyn yn wynebu cyhuddiad troseddol neu'n gorfod mynd i'r llys, mae'n bwysig siarad â chynghorydd profiadol.

Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant yn cynnig cyngor am ddim am ystod eang o faterion. Llinell Gymorth 01206 873820. Rhwng 10.00 am a 12.00 pm, a rhwng 2.00 pm a 5.00 pm bob dydd.

I gael gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau cynghori yn eich ardal chi, ffoniwch y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 608 1122. Fel arall, ewch i'r cyfeiriadur ar wefan Galw Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU